Dathlu llwyddiant, annog eraill i fentro a chodi ymwybyddiaeth o gam-wahaniaethu
Dyddiad: 13/03/2026
Mae’r dair sy’n dal rhai o brif swyddi ar Gyngor Gwynedd wedi cyd-sefyll â phobl a chymunedau ar draws y byd i ddathlu cyfraniad a llwyddiant merched.
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn gynharach yn yr wythnos ac mae mis Mawrth yn cael ei adnabod fel Mis Hanes Menywod, mae Cyngor Gwynedd wedi nodi fod y sefydliad mewn sefyllfa lled wahanol i lawer un arall, gyda Arweinydd, Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid ill tair yn fenywod.
Daeth y dair – sef y Cynghorwyr Nia Jeffreys, Menna Trenholme ac Angela Russell – at ei gilydd i adleisio rhai o negeseuon Diwrnod Rhyngwladol y Merched, sef i ddathlu llwyddiant merched, i annog eraill i fentro ac i godi ymwybyddiaeth o gam-wahaniaethu.
Mae’r dair yn galw ar fwy o ferched i fynd amdani mewn gwahanol feysydd, gan dynnu ar eu profiadau bywyd amrywiol i geisio ysbrydoli eraill.
Y Cynghorydd Nia Jeffreys
Wedi ei hethol i Gyngor Gwynedd i gynrychioli ward Dwyrain Porthmadog yn 2017; yn Nhachwedd 2024, gwnaeth hanes drwy ddod yn Arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Themâu Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni ydi “Give to Gain”, sy’n annog cefnogaeth, mentora, rhannu adnoddau a chodi lais dros ferched fel ffordd o greu cymdeithas fwy cyfartal.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma yng Nghyngor Gwynedd, ‘da ni wedi penodi merch fel un o’n Cyfarwyddwyr Corfforaethol a merch yn Bennaeth un o’n hadrannau mwyaf sef yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Yn ogystal mae nifer o ferched o fewn y Cyngor wedi cael dyrchafiad i swyddi uwch gan gynnwys Penaethiaid Cynorthwyol a Rheolwyr Gwasanaethau, llawer ohonynt wedi bod trwy rhaglen ddatblygol Merched Mewn Arweinyddiaeth y Cyngor.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n nghyd Aelodau Cabinet sy’n ferched, Llio, June a Menna sy’n Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn ogystal ag Arweinydd yr wrthblaid y Cynghorydd Angela Russell. Diolch i’m cydweithwyr benywaidd am eu hymroddiad, eu cyfraniad a’u cyfeillgarwch.”
Y Cynghorydd Angela Russell
Wedi ei ethol i gynrychioli ward Llanbedrog yn 2012 (nawr ward Llanbedrog a Mynytho), mae’r Cynghorydd Angela Russell yn ddynes fusnes, yn fam i ddwy ac yn nain i bedwar.
Meddai:
“Dechrau ar y Cyngor Cymuned wnes i, roedden nhw’n chwilio am aelodau newydd a mi wnaethon nhw fy mherswadio i ddod yn aelod. Mi fues i ar y Cyngor Cymuned am 18 mlynedd i gyd.
“Roedd pobol yn swnian arnaf i drio am y Cyngor Sir. Roeddwn yn meddwl y byddai’n brofiad da ond wnes i byth feddwl y byddwn i’n mynd i fewn. Roeddwn i’n teimlo fel bull in a china shop yn cyrraedd y Cyngor ar y dechrau, ac yn meddwl byddwn i’n gallu newid bob dim. Dwi wedi mwynhau bob eiliad o fod yn gynghorydd, dwi’n mwynhau sialens. Fedrai i ddim deud faint dwi wedi mwynhau fy amser ar y Cyngor, dyma amser gorau fy mywyd.
“Mae ‘na lawer wedi newid o ran sefyllfa merched. Pan ddechreuais i ac yn edrych ar y Sêt Fawr yn y siambr, roedd o’n pale, male and stale. Ond mae’n braf ofnadwy gweld gymaint fwy o ferched . Dwi’n credu’n gryf na’r person gorau am y job sydd ei angen ond dwi hefyd yn meddwl fod gan bawb rywbeth da i’w gyfrannu. Mae’n neis gweld mwy o ferched yn llwyddo – mwy o gymysgfa sydd ei angen, dim pawb yr un peth.
“Mi fyswn i’n awgrymu i bawb sydd efo diddordeb i sefyll fel cynghorydd – pan fyddai i yn siarad efo plant, dwi’n dweud wrthyn nhw i beidio bod ofn trio pethau. Mae gan bawb rhywbeth i’w gyfrannu. Mae merched yn gallu bod yn fwy swil ond mae eisiau cwffio i gael mwy o ferched i fewn i swyddi, a cadw momentwm.”
Y Cynghorydd Menna Trenholme
Mae dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Menna Trenholme, yn cynrychioli ward Bontnewydd ers pedair mlynedd ac yn fam i ddau o blant bach. Cyn cael ei hethol, roedd yn gweithio i fenter oedd yn cefnogi pobl oedd heb waith i ddod o hyd i swydd neu i gael mynediad i hyfforddiant.
Meddai:
“Roeddwn i wedi bod ar y cyngor cymuned ond doeddwn i erioed wedi meddwl fod bod yn gynghorydd sir a mi wnaeth na rhywun o’r pentref awgrymu i mi sefyll.
“Yn fy ngwaith, yn cefnogi pobl i gael swyddi, roeddwn yn mwynhau gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Ond doeddwn i erioed wedi meddwl mynd i wleidyddiaeth, yn enwedig am fod y plant yn fach ar y pryd, yn ddwy a phedair oed.
“Nid pawb sy’n sylweddoli efallai, ond gall Cynghorydd hawlio ad-daliad costau gofal ac mae hawl tâl mamolaeth hefyd. Dywedodd cyd-aelod wrthyf i gofio i wneud cais am yr help tuag at gostau gwarchod fy merch oedd yn mynd i feithrinfa ar y pryd. Dwi’n ei gofio yn dweud “mae’r pres yna i bobl fel ti”. Dwi’n meddwl fod yr help yn hollbwysig, yn enwedig os ydan ni eisiau mwy o bobl ifanc a phobl gyda phlant ar y Cyngor, er mwyn dod a phersbectif gwahanol i benderfyniadau.
“Wrth fod gen i deulu ifanc, dwi’n gallu gwneud fy ngwaith cynghorydd rownd y plant. Dwi’n codi’n gynnar i wneud gwaith cyn mynd a’r plant i’r ysgol.
“Os oes cyfarfodydd gyda’r nos, mae hynna’n gallu bod yn anodd i mi. Dwi’n cofio pan ddechreuais i fel cynghorydd, aelod arall profiadol yn dweud wrthyf “os wyt ti’n dweud ‘ie’ wrth un peth, ti’n dweud ‘na’ wrth rhywbeth arall”. Mae hynna wedi aros efo fi, os ydw i’n dweud ie wrth rhywbeth gyda’r nos dwi’n dweud na wrth gael swper gyda fy nheulu.
“Dwi’n meddwl fod dipyn o bobl ifanc wedi cael eu hethol tro diwethaf a mae’n bwysig ein bod yn dal gafael ynddyn nhw ac yn defnyddio eu profiadau i annog mwy o bobl ifanc i gymryd diddordeb, yn enwedig nawr fod pobl ifanc yn cael pleidleisio yn 16, mae angen i bawb fod yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n mynd ymlaen.
“Mi fyswn i’n annog mwy o ferched ifanc i feddwl rhoi eu hunain mlaen am wahanol bethau – efallai gwneud siarad cyhoeddus neu gymryd rhan gyda rhywbeth fel Ffermwyr Ifanc. Mae’n rhoi hyder i rhywun ac yn rhoi blas o sut mae pawb yn gallu cyfrannu i’r gymuned.”