Murlun newydd i anrhydeddu'r athrawes forwrol Ellen Edwards

Dyddiad: 08/03/2023
Brasfodel_Impression

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Cyngor Gwynedd yn falch o gyhoeddi bod gwaith ar ddechrau ar furlun newydd i ddathlu bywyd a hanes yr athrawes forwrol Ellen Edwards. 

 

Mae hwn y gyntaf o sawl gosodwaith celf sydd ar droed yn y dref yn rhan o brosiect newydd a chyffrous Canfas gan Galeri Caernarfon.  

 

Cafodd y darn o gelf ei greu gan yr artist Cymreig Teresa Jenellen. Bydd i’w weld ar wal maes parcio Doc Fictoria Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon gyda gwaith yn dechrau ar y murlun dros yr wythnosau nesaf. 

 

Prosiect peilot gan Galeri Caernarfon yw Canfas, a’i nod yw ymgorffori hunaniaeth pobl Caernarfon mewn llecynnau gwag ac anghofiedig yn y dref. Bydd y gofodau hyn yn troi’n ganfasau a fydd yn dehongli straeon, atgofion a chwedlau mewn ffordd greadigol. Bydd hyn yn arwain at gyfres o weithgareddau celf ar y canfasau hyn ledled Caernarfon. Ariennir y prosiect gan Galeri Caernarfon ac Arloesi Gwynedd Wledig.  

 

Roedd Ellen Edwards yn ffigwr arloesol yn y diwydiant morwrol, wedi dysgu dros 1,000 o forwyr sut i hwylio yn ystod y 19eg ganrif yn ei hysgol forwrol yng Nghaernarfon.  

 

Mae’r penderfyniad o osod murlun o ddynes mor ddylanwadol ag Ellen Edwards ar un o furiau maes parcio staff y Cyngor yn addas iawn gan fod yr awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi mwy o ferched i fod yn ymgeisio am ac yn dal swyddi arwain a rheoli o fewn y sefydliad. Yn wir, mae hyn yn flaenoriaeth sydd wedi ei nodi yng Nghynllun y Cyngor, a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 2 Mawrth. 

 

Yn rhan o’r gwaith yma mae Rhaglen Ddatblygol Merched Mewn Arweinyddiaeth wedi ei chyflwyno, gyda’r pwyslais ar drosglwyddo sgiliau, datblygu hyder ac adeiladu rhwydwaith broffesiynol. Hyd yma mae 22 aelod o staff wedi cwblhau a chael budd o’r Rhaglen ac heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, y bydd 12 merch arall yn dechrau arni. 

 

Dywedodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon: “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am eu cymorth a’u cydweithrediad parod i wireddu’r gwaith celf gyntaf i’w osod yng nghanol y dref yn rhan o brosiect Canfas.    

 

“Mae gallu cofnodi cyfraniad Ellen Edwards efo gwaith celf o’r safon yma yn ffordd deilwng o gychwyn y prosiect yn Noc Victoria. 

 

“Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r swyddogion perthnasol yn Ffiwsar a Menter Môn am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd i staff yn Adra am eu help efo’r cynllun ym Mro Seiont sydd wrthi’n cael ei wireddu ar yr un pryd a’r prosiect yma.” 
    

Dywedodd Artist y murlun, Teresa Jenellen: 

 

“Roedd Ellen Edwards yn arloeswraig. Nid yn unig y llwyddodd ym myd morwriaeth a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, ond fe ragorodd. Cafodd ei chydnabod a’i pharchu, gyda llawer o’i myfyrwyr yn cyflawni gyrfaoedd nodedig eu hunain. 

 

“Yn hytrach na phortread, mae'r gwaith yma yn ddathliad o lwyddiant Ellen Edwards a'r ysbrydoliaeth rhoddwyd, nid yn unig i’r dynion a ddysgwyd i forwyo ar y pryd, ond hefyd, ac efallai yn bwysicach, i’r merched a gwyliodd a dysgodd amdani ar hyd y degawdau. Ceisiais fynegi’r teimlad o edrych, i’r gorwel a thu hwnt, gyda phwrpas a gobaith.” 

 

Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, yr Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gefnogaeth Gorfforaethol: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y murlun newydd ac yn falch o’r prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth sydd gyda ni o fewn y Cyngor.  

 

“Mae’n brosiect sy’n ceisio dileu unrhyw rwystrau all fod yn atal merched rhag cyrraedd swyddi arweiniol o fewn y Cyngor. Credaf fod dal gwaith gyda ni i wneud ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld sut bydd y prosiect yn datblygu.” 

 

Llun – Brasfodel o’r darlun o Ellen Edwards fydd yn cael ei osod ar wal maes parcio Doc Fictoria, Caernarfon.