Gŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd 2023

Dyddiad: 15/03/2023
GwylLlesiant

Bydd Gŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd 2023 yn cael ei gynnal rhwng 20-24 Mawrth eleni.

Bwriad yr Ŵyl yw hybu iechyd meddwl a lles da, gyda nifer o weithgareddau gan gynnwys sesiynau ynghylch creadigrwydd, straen, iechyd meddwl, hyfforddiant cylchol, Lego, materion arian, LHDT+ a mwy yn cael eu cynnal ar draws Gwynedd ar gyfer pobl ifanc y sir.

Roedd yr Ŵyl Llesiant blwyddyn ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol a gafodd effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc y sir. Yn wir, cafodd hyn ei gydnabod yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 gyda'r Ŵyl yn ennill y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros Blant a Phobl Ifanc:

“Mae’n hynod o braf gweld bod yr Ŵyl lwyddiannus yma’n cael ei chynnal eto eleni. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid, ein partneriaid a phobl ifanc y sir wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau y bydd yr Ŵyl eleni mor llwyddiannus ar un flwyddyn ddiwethaf.

“Felly rwyf yn annog pobl ifanc y sir i gymryd rhan yn yr Ŵyl ac i ddarganfod pa wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i’w helpu gyda’u hiechyd meddwl a llesiant yn gyffredinol.”

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd 2023, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/GwylLlesiant2023