Gwaith yn dechrau ar gartref newydd i Ysgol Treferthyr, Cricieth

Dyddiad: 08/03/2023
Treferthyr

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen yng Nghricieth yn ddiweddar i ddathlu dechrau gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Treferthyr.

Torrwyd y dywarchen gan y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd) a chriw o ddysgwyr Ysgol Treferthyr. Ymunwyd hwy ar y diwrnod gan Bennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Treferthyr, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Treferthyr, y Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd Cyngor Gwynedd), swyddogion o’r Adran Addysg ac Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor, cadeirydd Cyngor Tref Cricieth a thîm Wynne Construction.

Bydd y prosiect cyffrous gwerth £8m, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a Chyngor Gwynedd, yn cynnig 150 o lefydd yn ogystal ag Uned Blynyddoedd Cynnar ac Uned Asesu Dysgu Ychwanegol.

Bydd Ysgol Treferthyr newydd, sydd wedi'i leoli tua 500m i'r gorllewin o safle'r ysgol bresennol, yn cael ei adeiladu gan gwmni Wynne Construction.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Rwy’n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar yr ysgol newydd a fydd, pan fydd wedi’i orffen, yn darparu cyfleusterau modern i blant Cricieth ac yn caniatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial.

“Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth gyda mynediad allanol, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas. Bydd gan yr ardal allanol arwynebedd caled ar gyfer chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd a chae chwarae gwair.

“Er bod yr hen ysgol wedi bod yn nodwedd boblogaidd o’r dref, rwy’n hyderus bydd y dysgwyr, eu teuluoedd a’r staff dysgu wrth ei boddau gyda’r ysgol newydd.”

Dywedodd Karena Owens, Pennaeth Ysgol Treferthyr:

“Bu staff yr ysgol yn weithredol yn y broses dylunio’r adeilad newydd o’r cychwyn cyntaf ac er i’r prosiect orfod oresgyn sawl rhwystr dros y blynyddoedd diwethaf mae’n wych i weld bod y cam o godi’r adeilad newydd wedi cychwyn.

“Mae pawb yn Ysgol Treferthyr wedi eu cyffroi ac yn edrych ymlaen at gael symud i’r safle newydd ym Medi 2024. Yn sicr bydd yr adeilad anhygoel yn adnodd ardderchog ac yn gaffaeliad addysgiadol gwych i’r dysgwyr, staff, Llywodraethwyr a’r gymuned i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Andy Lea, rheolwr prosiect, Wynne Construction:

“Rydym yn falch iawn o weithio gyda Chyngor Gwynedd unwaith eto ar yr ysgol newydd yma i staff a disgyblion Cricieth. Fel yr arfer, drwy gydol y broses adeiladu byddwn yn ceisio gadael etifeddiaeth barhaus drwy greu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant, gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi leol ac ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid allweddol.

“Mae darparu cyfleuster ysgol fodern ar gyfer yr 21ain ganrif lle gall plant ifanc ddysgu a datblygu mewn awyrgylch ysbrydoledig yn hollbwysig ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i sicrhau etifeddiaeth i Wynedd gyfan. Edrychwn ymlaen at gael ddechrau ar y prosiect yma.”

Yn 2021 cyflwynwyd cais cynllunio i Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r cyllid a chaniatâd gan Gabinet y Cyngor i adeiladu Ysgol Treferthyr newydd.

Fodd bynnag, oherwydd cyfuniad o resymau, mae'r amserlen ar gyfer adeiladu wedi llithro rhywfaint o'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Roedd angen archwiliad archeolegol o’r safle ynghyd â gwaith pellach mewn cydweithrediad ag Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor ar gynlluniau ar gyfer llwybrau diogel i’r ysgol newydd.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym mis Medi 2022 ar ôl cwblhau’r gwaith ychwanegol yma.

Ffactor arall a gyfrannodd at y llithriad yn yr amserlen oedd y gwelwyd cynnydd cyson a sylweddol ym mhrisiau deunyddiau, ynni ac ati yn y maes adeiladu yn ystod y cyfnod hwn a olygai nad oedd y gyllideb o tua £5m ar gyfer y prosiect bellach yn ddigonol.

Felly, yn dilyn y caniatâd cynllunio, cyflwynwyd cais i gynyddu’r gyllideb i ychydig dros £8m ac fe gymeradwywyd hyn gan Gabinet y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid ychwanegol trwy amryw grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru i gynnwys uned Blynyddoedd Cynnar ac Uned Asesu Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Treferthyr newydd.

Y bwriad yw cwblhau’r gwaith erbyn Medi 2024.

 

Lluniau:

1 – Y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Elwyn Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd gyda rhai o ddysgwyr Ysgol Treferthyr yn torri’r dywarchen ar safle newydd Ysgol Treferthyr, Cricieth.

 

2 – Seremoni torri’r dywarchen ar safle Ysgol Treferthyr newydd, Cricieth.

 

3 – Dyluniad o’r Ysgol Treferthyr newydd, Cricieth.