Ymestyn Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd a chreu mwy o gartrefi i bobl leol
Dyddiad: 13/05/2025
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo estyniad i’r Cynllun Gweithredu Tai am ddwy flynedd arall, gan ddatblygu 450 o unedau ychwanegol ar gyfer trigolion lleol. Mae hyn yn dod â’r targed i dros 2,000 o gartrefi erbyn 2029, gyda £190 miliwn yn cael ei fuddsoddi a thros 17,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth dros oes y cynllun.
Nod y cynllun, a lansiwyd ym mis Ebrill 2021, yw mynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod gan bobl leol fynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd yn eu cymunedau eu hunain.
Mae'r estyniad yn dilyn newidiadau i'r sefyllfa dai, anghenion pobl Gwynedd a ffynonellau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi adnabod cyfleoedd newydd i ehangu'r prosiectau a chefnogi hyd yn oed mwy o drigolion i gael hyd i gartref.
Mae prosiectau allweddol yn y Cynllun Gweithredu Tai yn cynnwys codi mwy o dai fforddiadwy, prynu eiddo i’w rentu i bobl leol, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, a datblygu llety â chefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd.
Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi cefnogi bron i 9000 o bobl ac wedi darparu 800 o unedau tai. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi a Thai Gwag, gyda dros £10.5 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ers 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Gwynedd:
“Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn amlinellu ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd. Dw i’n croesawu’r ffaith, drwy ymestyn y Cynllun, y gallwn nawr darparu 450 o gartrefi ychwanegol i drigolion lleol.
“Rydym yn cydnabod yn llawn yr heriau sy’n wynebu pobl y sir – gan gynnwys argyfwng tai parhaus yng Ngwynedd, fel mewn siroedd eraill, a chostau byw sydd wedi codi’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’r Cynllun tai yn parhau i fod yn strategaeth ddeinamig, sy’n esblygu. Rydym wedi gosod blaenoriaethau clir, fel cynyddu’r cyflenwad o gartrefi i bobl leol, mynd i’r afael â digartrefedd a helpu pobl y sir ymdrin efo’r argyfwng costau byw a thlodi tanwydd.
“Tai diogel, sefydlog a fforddiadwy yw’r sylfaen ar gyfer bywydau iach a hapus. Ein nod yw sicrhau bod gan drigolion Gwynedd fynediad at gartrefi sydd wir yn fforddiadwy, o fewn eu milltir sgwâr – a’n Cynllun Gweithredu Tai ydi’r canllaw i wneud hyn yn realiti.”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Dw i'n gweld effaith yr argyfwng tai yn ddyddiol yng Ngwynedd, gyda theuluoedd mewn llety argyfwng, pobl ifanc methu fforddio tŷ cyntaf a phobl yn aros am gyfnod llawer rhy hir am dŷ cymdeithasol yn eu cymunedau. Mae mynd i’r afael â’r argyfwng yn gofyn am weithredu cadarn ac effeithiol yn San Steffan, Llywodraeth Cymru ac ar lefel lleol.
“Mae’r Cyngor wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i geisio diwallu’r angen am gartrefi fforddiadwy yn y sir, ac mae’r Cynllun diweddaraf yma’n gam arwyddocaol ymlaen.
“Mae’n cynnwys dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, prynu eiddo i’w gosod i bobl leol, a darparu amrywiaeth o gefnogaeth i aelwydydd sy’n profi digartrefedd, gyda llawer o’r prosiectau yma eisoes yn dwyn ffrwyth. Dw i hefyd yn hynod o falch ein bod am fuddsoddi yn stad fanddaliadau’r Cyngor, sy’n cynnig cartrefi i bron i 40 o deuluoedd yn Nwyfor a Meirionnydd – gan helpu i gefnogi ein cymunedau gwledig, ein heconomi a’n diwylliant.”
Nodiadau:
Cafodd Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020, ac mae’n weithredol ers Ebrill 2021. Mae’n cynnwys 30 o brosiectau i greu dros 2,000 uned a helpu dros 17,000 o bobl er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd gartref addas, fforddiadwy ac o safon.
Er mwyn cyflawni’r nod hyn, mae yna 5 amcan wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun, sef:
- Sicrhau fod neb yn ddigartref yng Ngwynedd
- Cynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd gael tenantiaeth mewn tŷ cymdeithasol
- Helpu trigolion Gwynedd i fod yn berchen ar gartref yn eu cymuned
- Tai Gwynedd yn amgylcheddol gyfeillgar
- Tai Gwynedd yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a llesiant trigolion y sir
Mwy o wybodaeth am Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd: Cynllun Gweithredu Tai 3.0