Llwyddiant i dri o Wynedd gyda Tîm Pŵl Anableddau Dysgu Cymru
Dyddiad: 19/05/2025
Mae tri chwaraewr pŵl i Wynedd yn dathlu bod y chwaraewyr cyntaf o Ogledd Cymru i ennill eu lle ar y Tîm Pŵl Anableddau Dysgu Cymru a chynrychioli eu gwlad yng nghystadleuaeth Cwpan y Cenhedloedd yn Bridlington yn ddiweddar.
Ers dychwelyd gartref i Wynedd, mae Gary o Fethesda, Osian o Waunfawr a Troy o Flaenau Ffestiniog eisoes wedi bod yn llygadu eu cystadlaethau nesaf ac wedi dechrau ymarfer.
Mae’r tri yn chwarae i Glwb Pŵl Llwybrau Llesiant ers dros flwyddyn a hanner ac yn ymarfer bob yn ail nos Lun yn bar Poced Gornel ym Mangor.
Daeth Gary, Osian a Troy i’r brig allan o 14 o chwaraewyr o bob rhan o’r rhanbarth mewn cystadlaethau rowndiau pŵl ym Mangor dros y misoedd diwethaf, gan ennill eu lle ar y tîm cenedlaethol. Aethent ymlaen i’r twrnament Cwpan y Cenhedlaeth ble roedd chwech o dimau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Gibraltar yn brwydro.
Daeth Osian hefyd yn 2il yn y gystadleuaeth unigol – a hyn wrth gystadlu ar y lefel yma am y tro cyntaf erioed.
Meddai Troy: “Dwi’n falch bod fi di cael y cyfle gan ‘Corner Pocket’ i chwarae efo tîm Cymru. Y tro gyntaf i bobl o Ogledd Cymru gael y cyfle, er i’r tîm gael ei sefydlu yn 1994. Dwi’n teimlo’n falch ac yn gobeithio fydd na fwy o bobol o Ogledd Cymru yn cael cyfle.”
Ychwanegodd Osian: “Oedd o’n rhywbeth mawr i gael y cyfle i chwarae i Gymru, dwi’n teimlo’n falch. Dwi wedi rili mwynhau ac yn edrych ymlaen at fynd eto.”
Meddai Gary : “Dwi wedi licio cael mynd i Bridlington, nes i fwynhau cyfarfod gweddill tîm Cymru a gwledydd eraill. Mi wnaethom ni guro lot o gêms. Dwi’n teimlo’n rili hapus, teimlo mwy hyderus ac yn edrych ymlaen at gystadlu eto.”
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd:
“Mae’r cynllun Llwybrau Llesiant yn cynnig nifer o weithgareddau a sesiynau amrywiol i unigolion sydd ag anableddau dysgu yma yng Ngwynedd. Mae’r sesiynau sy’n cael eu cynnig yn amrywiol, ac yn hybu llesiant positif yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Mae’n rhoi cyfleoedd gwahanol i fagu sgiliau a chael mwy o hyder wrth gymdeithasu.
“Rwy’n falch iawn o’r gwaith gwych sy’n digwydd, a mae llwyddiant y clwb pŵl yn stori sy’n codi’r galon. Mae diolch hefyd i Gareth Humphreys, Cymhorthydd Personol sy’n cael ei gyflogi drwy’r cynllun Taliadau Uniongyrchol wnaeth yrru pawb i’r gystadleuaeth, ac oedd yno i’w cefnogi. Llongyfarchiadau enfawr i Osian, Troy a Gary.”
Nodiadau
Prosiect gan Wasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd yw Llwybrau Llesiant. Nod Llwybrau Llesiant yw datblygu potensial oedolion gydag anableddau dysgu trwy ddilyn gwahanol lwybrau llesiant. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein: www.LlwybrauLlesiant.cymru
Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd o drefnu gofal a chymorth o’ch dewis yn hytrach na dibynnu ar y Cyngor i wneud hyn ar eich rhan. Mae derbyn Taliadau Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae rhagor o fanylion am Daliadau Uniongyrchol ar wefan Cyngor Gwynedd: Taliadau Uniongyrchol