Cyngor Gwynedd yn annog rhieni i siarad am faterion iechyd meddwl

Dyddiad: 09/05/2025
Mae’r ail yn y gyfres o bodlediadau iaith Gymraeg i helpu teuluoedd ar y daith trwy flynyddoedd allweddol plentyndod wedi ei gyhoeddi, gydag iechyd meddwl rhieni o dan y chwydd wydr yn y rhifyn hwn.

 

Mae’r gyfres podlediadau “Mam, Dad a Magu” wedi ei greu gan Gyngor Gwynedd gyda’r bwriad o ddefnyddio’r cyfrwng poblogaidd i ddarparu gwybodaeth drwy’r Gymraeg a hefyd i chwalu’r tabŵs ynghylch rhai o’r heriau cyffredin mae rhieni i fabis a phlant bach yn eu hwynebu.

 

Yn yr ail bennod – sydd ar gael ar lwyfannau YouTube, Apple a Spotify – mae Aled Edwards o elusen ‘Sut Mae Dad?’ a Gwawr Miller o Wasanaeth Teulu Gwynedd yn siarad yn agored gyda’r actores a’r podledwraig Mari Elen am yr heriau iechyd meddwl mae rhieni yn eu hwynebu.

 

Mae’r sgwrs yn cyfeirio at yr arwyddion fod person o bosib yn dioddef; y camau cyntaf tuag at gael cymorth; beth all rhieni wneud i hyrwyddo iechyd meddwl da; a pha gefnogaeth sydd ar gael i helpu teuluoedd.

 

Yn ystod y bennod, mae Aled a Mari ill dau yn rhannu eu profiadau personol o ddioddef problemau iechyd meddwl ar ôl cael plant.

 

Profodd Aled gyfnod tywyll yn ystod 2021, wedi i’w blentyn ieuengaf gael ei geni. Meddai Aled: “Roeddwn yn gwneud popeth i drio profi i mi fy hun doedd dim problem, ond wrth wneud hynny roedd pethau yn mynd yn waeth. Roeddwn yn cael meddyliau drwg am fi fy hun ac yn meddwl nad oeddwn ddigon da ... roeddwn yn poeni am adael fy ngwraig a fy nheulu i lawr.”

 

Yn ôl Aled, mae’n hanfodol bwysig fod rhieni yn gofyn am help ac yn cael cyfle i siarad yn agored am yr hyn maent yn ei deimlo, er mwyn gallu rhoi’r cyfleoedd gorau i’w plant.

 

Yn ystod y podlediad, mae Gwawr Miller – sy’n gweithio yng Ngwasanaeth Teulu Gwynedd – yn egluro pam ei fod yn bwysig i rieni ofalu am eu hiechyd meddwl a pa bethau sy’n gallu helpu ar hyd y ffordd.

 

Meddai Gwawr: “Beth sy’n bwysig ydi ein bod i gyd yn wahanol a beth sy’n gweithio i un person ddim o reidrwydd yn mynd i weithio i rywun arall. Rydan ni’n gallu ffeindio beth sy’n gweithio i’r unigolyn.”

 

Crëwyd y gyfres podlediadau “Mam, Dad a Magu” wedi i swyddogion o’r Adran Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd weld yr angen am ffordd newydd o siarad efo rhieni am broblemau cyffredin sy’n gallu cael effaith ar ddatblygiad naturiol plant, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Dywedodd Eirian Williams, Swyddog Prosiect o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:

 

“Os ydach chi’n chwilio ar-lein am gymorth, mae cymaint o bethau ar gael drwy gyfrwng y Saesneg ond prin ddim drwy’r Gymraeg. Yma yng Ngwynedd, mae’n gwbl naturiol i deuluoedd fod eisiau trafod pethau fel hyn yn Gymraeg.

 

“Y bennod yma yw’r ail yn y gyfres, ac mae’n dilyn rhifyn sy’n canolbwyntio ar helpu rhieni i ddysgu plant i ddefnyddio’r toiled.

 

“Dydyn ni ddim yma i farnu rhieni na gweld bai, ein bwriad ydi helpu teuluoedd drwy’r cyfnodau allweddol mewn datblygiad plant. Llesiant a hapusrwydd plant ydi’r peth pwysig yn hyn i gyd.

 

“Mae’r ymateb i’r podlediadau hyd yma wedi bod yn bositif iawn, dwi’n credu mai llwyddiant y cyfrwng yw gallu ymdrin â materion sensitif ac mewn ffordd gyfeillgar, gynnes a hwyliog. Rydyn ni’n gwybod pa mor brysur ydi bywyd i bawb sy’n magu plant ac felly un o fuddion podlediad ydi’r modd o wrando neu gwylio’r rhifynnau blaenorol ar amser sy’n eich siwtio chi.

 

“Rydym eisoes yn cynllunio’r bennod nesaf, fydd hefyd yn edrych ar fater sy’n bwysig i rieni.

 

Mae’r podlediad “Mam, Dad a Magu” yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud a magu plant. Mae ar gael yn rhad ac am ddim ar blatfformau poblogaidd fel YouTube, Spotify, Apple ac Amazon:  https://shor.by/Mam-Dad-a-Magu

 

Mae gwybodaeth ac adnoddau i helpu teuluoedd ar gael gan Gyngor Gwynedd – ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/TeuluGwynedd neu drwy gysylltu â tîm Teulu Gwynedd ar 01286 678824.

 

Nodiadau

Mae gwybodaeth am y bennod gyntaf o bodlediad ‘Mam, Dad a Magu’ ar gael yma: Cyngor Gwynedd yn torri tir newydd gyda cymorth rhiantu cyfrwng Cymraeg