Corbett Arms, Tywyn a chau ffyrdd dros-dro

Dyddiad: 14/05/2025

Mae cyflwr adeilad Gwesty'r Corbett Arms yn Nhywyn yn parhau i fod yn bryder difrifol i Gyngor Gwynedd, ac rydym yn parhau i fonitro ei gyflwr er diogelwch y cyhoedd.

Yn dilyn cwymp sylweddol yng nghefn yr adeilad ym mis Ionawr eleni, fe wnaeth y Cyngor weithredu ar unwaith i ddiogelu’r cyhoedd, gyda gwaith yn cynnwys cau ffordd yn rhannol, gosod ffensys diogelwch a monitro parhaus o’r adeilad. 

Mae’r Cyngor wedi ymgynnull grŵp prosiect gydag ystod o arbenigedd i reoli a gweithredu’r ymateb i'r mater, ac mae Cyngor Gwynedd yn parhau i ymgynghori'n rheolaidd gyda Cadw.

Er ymdrechion mynych i ddiogelu a sicrhau defnydd hirdymor yr adeilad rhestredig Gradd II, mae ei gyflwr wedi parhau i ddirywio gyda chwymp pellach i do'r ystafell ddawns ddiwedd Chwefror.

O ganlyniad i'r pryder am gwymp arall a'r angen i fod mewn sefyllfa i gymryd camau brys i ddiogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, comisiynodd y Cyngor gwmni arbenigol i godi sgaffaldiau ar hyd Stryd Maengwyn a rhan o Sgwâr Corbett a gwneud gwaith paratoi o flaen llaw ar y safle ar gyfer peiriannau arbenigol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu ymateb ar unwaith os oes angen gwaith brys pellach oherwydd cwymp arall neu dystiolaeth sy'n deillio o'r gwaith monitro parhaus.

Roedd angen camau brys i gau Stryd Maengwyn, Sgwâr Corbett a Stryd y Llew Coch dros dro i draffig o 17 Ebrill ac i osod sgaffaldiau pwrpasol er mwyn diogelwch trigolion a busnesau cyfagos a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae'r Cyngor bellach wedi cymryd y cam anodd ond angenrheidiol o ymestyn cyfnod cau'r ffyrdd hyn i draffig am gyfnod o chwe mis. Mae angen hyn er mwyn caniatáu amser i benderfynu'r cais am Ganiatâd Adeiladu Rhestredig a fydd yn cael ei gyflwyno yn fuan gan y Cyngor, i'w benderfynu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn caniatáu i unrhyw waith sydd wedi ei gymeradwyo i wneud y strwythur yn ddiogel, gan gynnwys neu ddadadeiladu posibl rhan o'r adeilad gael ei gwblhau tra'n sicrhau diogelwch trigolion cyfagos a'r cyhoedd yn gyffredinol.

O ganlyniad, bydd y darn hwnnw o Stryd Maengwyn (A493), Tywyn o bwynt ger ei gyffordd gyda Brook Street gan deithio mewn cyfeiriad gorllewinol hyd at bwynt ger Corbett Square (A493), Tywyn ynghyd a Stryd y Llew Coch. Mae arwyddion y neu le i egluro’r ffordd amgen.

Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi'r effaith ar drigolion a busnesau lleol ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond mae'n ofynnol cau'r ffyrdd dros dro i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Os bydd y gwaith gofynnol ar adeilad Corbett Arms wedi'i gwblhau cyn canol mis Tachwedd 2025, bydd y Cyngor yn ailagor y ffyrdd yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl.

Fel rhan o'r broses Caniatâd Adeilad Rhestredig, bydd yr holl bartïon â diddordeb yn cael cyfle i wneud sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan Weinidogion Llywodraeth Cymru cyn penderfynu'r cais.

Oni bai bod cwymp arall neu dystiolaeth bod cyflwr yr adeilad yn dirywio i'r fath raddau fel bod yn rhaid i'r Cyngor ymateb ar frys, ac eithrio gwaith paratoi, ni fydd y Cyngor yn gwneud gwaith dymchwel nes bod caniatâd adeilad rhestredig wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd y Cyngor yn parhau i asesu gweddill yr adeilad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach, gan ystyried cyflwr strwythurol, diogelwch y cyhoedd a statws rhestredig yr adeilad.