Hawl cynllunio i 4 safle 'Arosfan' yng Ngwynedd

Dyddiad: 10/05/2023

Mae caniatâd cynllunio wedi ei sicrhau i dreialu pedwar safle ‘Arosfan’ mewn lleoliadau yng Ngwynedd a fydd yn cynnig safle pwrpasol i gartrefi modur aros dros-nos.

Mae hyn y dilyn awydd i sicrhau gwell rheolaeth o’r maes a gwaith ymchwil manwl, gyda’r bwriad o gynnig lleoliad dros-nos i gartrefi modur tebyg i ‘aires’ a welir ar y cyfandir.

Yn dilyn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd ym maes parcio Doc Fictoria (cyn safle Shell) yng Nghaernarfon; Y Glyn yn Llanberis; maes parcio’r Maes yng Nghricieth a Chei’r Gogledd ym Mhwllheli mae gwaith ar y ddaear yn bwrw ymlaen i ddatblygu’r ddarpariaeth. Mae gwaith yn parhau i geisio adnabod safle addas ar gyfer darparu lleoliad Arosfan yn ardal Meirionnydd.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi:

“Mae hyn yn gam pwysig ac yn arwydd clir ein bod ni fel Cyngor am ddatblygu sector twristiaeth gynaliadwy sy’n parchu cymunedau Gwynedd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi gweld llawer mwy o gartrefi modur yn ymweld a’n hardaloedd, ac mae’n naturiol fod ymwelwyr am fwynhau yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.

“Mae’r lleoliadau ar gyfer yr ‘Aros-fannau’ wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol yma yng Ngwynedd, ac yn cynnig arhosiad uchafswm o 48 awr.

“Y bwriad ydi annog defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau’r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i’w gynnig.”

Bydd pob un o’r safleoedd Arosfan yn cynnig lle i hyd at naw o gartrefi modur a fydd yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48-awr. Byddant yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol.

Bydd cynllun cyfathrebu yn cael ei weithredu dros y misoedd nesaf i gynnwys ymgyrchoedd ar-lein yn atgoffa ymwelwyr i wersylla yn gyfreithlon a chefnogi busnesau drwy ddefnyddio meysydd gwersylla lleol. Bydd negeseuon amlwg hefyd yn cael eu gosod o fewn y safleoedd Arosfan i sicrhau fod rheoliadau safle yn cael eu dilyn. Ni fydd gweithgareddau sy’n gysylltiedig â meysydd gwersylla traddodiadol yn cael eu caniatáu, megis tanau gwersyll a barbeciws.

I gyd-fynd gyda’r safleoedd Aros-fan, mae Cyngor Gwynedd hefyd yn cyflwyno gorchmynion penodol a fydd yn atal hawl cartrefi modur i barcio dros nos mewn cilfannau mewn ardaloedd sydd wedi gweld enghreifftiau o barcio a gwersylla anghyfrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

Bwriad y Cyngor wrth gyflwyno’r gorchmynion yma ar yr A496 ar y ffordd i mewn i’r Bermo, ar yr A497 ger Cricieth ac ardal Y Foryd ger Caernarfon fydd cryfhau grymoedd y Cyngor i reoleiddio y maes er mwyn ymateb i’r heriau sydd yn codi mewn rhai lleoliadau yn y sir gyda’r cerbydau yma’n parcio dros nos heb hawl.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydw i’n croesawu’r ffaith fod y cynlluniau i dreialu’r safleoedd Arosfan yn bwrw ymlaen – mae’n cynnig cyfle i ni wella rheolaeth o gartrefi modur yma yng Ngwynedd.

“Trwy dreialu’r safleoedd Aros-fan cychwynnol yma, bydd modd i fonitro sut mae’r datblygiad yn gweithio ac ystyried os oes lle i wella ac addasu os ydym am weld rhagor o fannau tebyg yn cael eu sefydlu.

“Yn ogystal a’r safleoedd Arosfan, mae’n dda gweld fod gorchmynion penodol newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymdrech ehangach i fynd i’r afael â gwersylla anghyfreithlon dros nos mewn mannau problemus penodol wedi bod yn amlwg.”

Gyda hawl cynllunio bellach yn ei le ar gyfer 4 safle Arosfan, bydd gwaith paratoi angenrheidiol yn bwrw yn ei flaen dros yr wythnosau nesaf i gael y lleoliadau yn barod. Disgwylir y bydd y safleoedd ar agor yn barod ar gyfer haf eleni.

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i dreialu’r lleoliadau Arosfan.