Digwyddiad i ddathlu Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 02/05/2023
Ar 22 Mai bydd y Cyngor yn cynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd. Bydd y diwrnod yn gyfle i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd i ddod at ei gilydd i ddysgu, rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.

Bydd y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ym Mhant Du, Penygroes yn rhoi trosolwg o’r hinsawdd fusnes yng Ngwynedd gan amlinellu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau fel y maent yn llywio’r heriau.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygiad economaidd:

“Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau Gwynedd i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Ngwynedd ac i glywed a rhannu eu profiadau gyda busnesau lleol eraill.

“Bydd bore’r digwyddiad yn ffocysu ar dri busnes lleol a fydd yn rhannu eu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a'r cyfleoedd sydd wedi codi wrth fod yn arloesol.

“Yna bydd y prynhawn yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd. “

Cynhelir y digwyddiad yn hybrid ac felly mae’n bosib ymuno ym Mhant Du, Penygroes neu ymuno ar lein drwy Zoom.

Darperir Te a Choffi i’r rhai a fydd yn ymuno ym Mhant Du a bydd cinio ysgafn ar gael yn ystod y digwyddiad.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, anfonwch eich manylion gan gynnwys enw, enw’r busnes neu sefydliad a nodi eich bod yn mynychu ar lein neu mewn person i busnes@gwynedd.llyw.cymru

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad cysylltwch â Busnes@gwynedd.llyw.cymru neu ewch i safle we’r Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/DiwrnodBusnes