Cyngor Gwynedd yn dathlu agoriad swyddogol Ysgol Y Garnedd

Dyddiad: 18/05/2023
Garnedd-3
Cafwyd cyfle i ddathlu buddsoddiad o £8 miliwn er mwyn darparu adnoddau addysgol a chyfleon datblygu o’r radd flaenaf i blant ym Mangor, gydag agoriad swyddogol Ysgol Y Garnedd yn y ddinas.

Agorwyd drysau’r ysgol newydd am y tro cyntaf i’r disgyblion ‘nol ym mis Tachwedd 2020, a heddiw (dydd Iau, 18 Mai 2023) cafwyd cyfle i ddathlu’r buddsoddiad a chroesawu Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru ac arweinwyr cymunedol lleol i’r Garnedd i weld y budd mae’r disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach yn eu cael o’r ysgol. 

Mae’r ysgol newydd wedi llwyddo i gyfuno naws deuluol a chroesawgar draddodiadol yr hen ysgol gydag adnoddau addysgu a dysgu sy’n gweddu’r 21ain ganrif. Mae’r ysgol newydd yn cynnwys ystafell gerddoriaeth, neuadd gymunedol aml-ddefnydd, gofod pwrpasol ar gyfer unedau arbenigol, Cylch Meithrin a gofal plant.

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Garnedd, Llinos Davies:

“Mae heddiw yn achlysur arbennig i holl rhan-ddeiliad Ysgol Y Garnedd. Mae’r ysgol wedi bod yn darparu addysg a phrofiadau o’r safon uchaf dros y blynyddoedd, ac er bod yr hen adeilad yn gartrefol ac yn gyfarwydd, nid oedd yn ddelfrydol i ddiwallu anghenion addysg yr unfed ganrif ar hugain.”

“Mae’r disgyblion, staff a Llywodraethwyr yn ymfalchïo yn adeilad newydd Ysgol Y Garnedd, ac mae’r disgyblion wedi ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl mynyddoedd adnabyddus Eryri. Mae adnoddau gwych megis ystafell gerdd bwrpasol, ystafell goginio, campfa a neuadd yn cyfoethogi addysg ein disgyblion.

“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwireddu’r freuddwyd yma. Edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu addysg Gymraeg o’r radd flaenaf mewn amgylchedd ysgogol, diogel a hapus.”

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’n fraint gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y mae’r adeilad newydd gwych hwn yn ei wneud i ddisgyblion a staff, sydd wedi’i gyflawni drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyfleusterau o'r radd flaenaf hyn, lle mae unedau cyn-ysgol a chymorth arbenigol wedi bod yn rhan annatod o’r cynllun, yn golygu y gallwn ddarparu’r amgylchedd dysgu gorau i’n holl blant a meithrin eu gallu gan sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.”

Ychwanegodd Y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Roedd galw cynyddol am lefydd yn Ysgol y Garnedd yn golygu nad oedd strwythur yr hen adeilad bellach yn addas. Mae Ysgol y Garnedd yn enghraifft berffaith o'n huchelgais i wella adnoddau ac adeiladau i greu amgylchedd ddysgu o'r ansawdd gorau posibl. Mae'n bleser bod yma heddiw i ddathlu’r agoriad swyddogol ac mae'n wych gweld y plant a'r staff yn mwynhau’r adnoddau sydd ar gael iddynt.”

Fe ddywedodd Ani a Nel, disgyblion ym mlwyddyn 5: “Mae’r adeilad yn fawr gyda llawer o le i symud, dysgu a gwneud Addysg Gorfforol. ‘Dwi’n meddwl bod y gofod chwarae yn wych. ‘Rwyf wrth fy modd â’r offer. Mae’r dosbarthiadau’n fawr ac yn fwy lliwgar. Mae’r ysgol yn le hapus iawn.”

Y contractwyr y tu ôl i'r gwaith adeiladu trawiadol yw Read Construction. Dywedodd Richard Smart, Rheolwr Contract: “Mae'r tîm cyfan yn Read yn falch iawn o'r prosiect gwych hwn. Er gwaethaf yr heriau gyda’r pandemig COVID19, rydym i gyd wedi gweithio ar y cyd i ddarparu amgylchedd ysgol ragorol ar gyfer yr 21ain Ganrif ar gyfer y disgyblion, yr athrawon a'r gymuned ehangach.”

Llun: Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru; y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg; y Cynghorydd Medwyn Hughes, Cadeirydd Cyngor Gwynedd; y Cynghorydd Elin Walker Jones, aelod lleol ar Gyngor Gwynedd; rhai o ddisgyblion yr ysgol.