Cyngor Gwynedd yn cynnal agoriad swyddogol Pont Bodefail

Dyddiad: 03/05/2023
Pont-Bodefail

Mae pont allweddol yn Llŷn wedi agor, yn benllanw ar bedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at £3 miliwn oedd yn cynnwys gwelliannau i’r ffordd a gwaith draenio dŵr wyneb ac mewn da bryd ar gyfer croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro.

Ar ddydd Mercher, 3 Mai cafwyd agoriad swyddogol i Bont Bodefail, sy’n croesi Afon Rhyd-hir ac yn ffurfio rhan o’r A497 rhwng Nefyn a Phwllheli. Mae’r bont newydd yn cymryd lle’r hen Bont Bodfal.

Datgelwyd enw newydd y bont yn ystod y seremoni, sef cyfuniad o enwau y ddau bentref agosaf i’r bont – Boduan ac Efailnewydd. Bathwyd yr enw gan Magi Griffiths, disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Pentreuchaf, a ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth i blant y fro.

Mae amddiffyn a dathlu enwau lleoedd cynhenid Cymreig yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac roedd Meirion McIntyre Huws, Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor, ar y panel a ddewisodd yr enw.

Caewyd yr hen Bont Bodfal – sy’n sefyll ers y 19eg Ganrif ac yn strwythur rhestredig Gradd II – yn Ionawr 2019 yn dilyn storm pan daeth i’r amlwg fod difrod a dirywiad sylweddol wedi bod i’w sylfeini. Yn anffodus, rhaid oedd dargyfeirio traffig wyth milltir i’r Ffôr am gyfnod byr, tra cynhaliwyd gwaith argyfwng i osod pont dros dro a thrwsio’r hen bont.

Rhoddwyd ystyriaeth i weld os byddai’n bosib lledaenu’r hen bont a’i gwneud yn addas ar gyfer anghenion rhwydwaith traffig heddiw. Ond wedi trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth i’r amlwg na fyddai hyn yn bosib a dechreuwyd ar y prosiect hir-dymor o godi pont newydd sbon.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd): “Mae’r A497 yn ffordd strategol bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd, felly mae’n braf cael bod yma ar ddiwrnod cyffrous a hanesyddol. Mae’r bont a’r ffordd newydd yn addas i anghenion modern a bydd yn gweud bywyd yn haws i bobl leol deithio o A i B. Mae’r hen Bont Bodfal wedi ei gwarchod fel ffordd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

“Dwi’n gwybod fod pethau wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diweddari’r tra roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen a dwi’n hynod ddiolchgar am amynedd y gymuned leol drwy gydol y cyfnod hwn.

“Mae Cyngor Gwynedd yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dylunio, peirianyddol a rheoli prosiect a chynnig gyrfaoedd arbenigol a phroffesiynol yn y maes i bobl leol. Mae datblygiad Pont Bodefail yn enghraifft wych o hyn ac mae’r buddsoddiad yma yn y rhan hon o’r sir wedi bod werth chweil.

“Rydw i hefyd yn falch fod ecolegwyr y Cyngor wedi cydweithio a’n peirianwyr er mwyn sicrhau fod yr amgylchedd naturiol a physgodfeydd yn yr afon yn cael eu gwarchod drwy gydol y gwaith.”

Torrwyd y rhuban gan y Cynghorydd Anwen Davies, yr Aelod Lleol dros ward Buan ac Efailnewydd. Meddai: “Roedd yn bleser cael bod yn rhan o’r seremoni heddiw. Mae’r bont newydd werth ei gweld a dwi’n falch hefyd bydd yr hen bont dal yn ei lle gan ei bod o bwysigrwydd hanesyddol lleol ac y bydd dal i fod ar gael i bobl fynd am dro neu ar eu beics, yn ddiogel oddi wrth traffig y brif ffordd.

“Dwi’n siŵr bydd pobl leol yn falch fod y bont newydd yn agored a bydd yn gwneud bywyd yn fwy hwylus. Mae cymaint o edrych ymlaen hefyd at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, gyda Maes y brifwyl dafliad carreg oddi wrth y bont, felly mae pawb yn falch fod y ei bod yn barod at pan byddwn yn croesawu eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, yma i’r ardal.

“Mae hon yn ardal boblogaidd gyda thwristiaid hefyd felly bydd y bont newydd yn helpu i ni fedru ymdopi â thraffig ychwanegol y cyfnod gwyliau prysur wrth i bobl ddod yma i fwynhau cefn gwlad Llŷn.”

Mae’r bont newydd tua 17 medr o hyd a thair medr o uchder gyda un bwa. Mae wedi bod ar agor i draffig ers rhai wythnosau ond mae ychydig o waith tacluso dal i fynd yn ei flaen.

Cyflogwyd cwmni Griffiths yn brif gontractwyr ar y prosiect. 

Meddai Owain Thomas, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Griffiths yng Ngogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn a chwarae rhan allweddol wrth ei gwblhau’n llwyddiannus.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n holl bartneriaid a’n rhanddeiliaid o’r gadwyn gyflenwi leol a gydweithiodd â ni i sicrhau y cyrhaeddodd y diwrnod arbennig hwn. Hoffwn ddiolch i’n tîm adeiladu hefyd, a weithiodd mor ddiflino i sicrhau y cwblhawyd y prosiect i’r safonau uchaf bosibl.

“Edrychwn ymlaen at weld miloedd o bobl yn croesi’r bont yn ystod yr haf i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol”.