Cadeirydd Cyngor Gwynedd 2023/24

Dyddiad: 05/05/2023
Cadeirydd+Is-Gadeirydd-Chair and Vice Chair

Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 4 Mai, etholwyd Y Cynghorydd Richard Medwyn Hughes (Canol Bangor) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a'r Cynghorydd Beca Roberts (Tregarth a Mynydd Llandygai) yn Is-Gadeirydd.

Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2017, mae’r Cynghorydd Hughes wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Hughes:

“Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd.”