Annog pobl i fwynhau arfordir Gwynedd yn ddiogel dros y cyfnod gwyliau

Dyddiad: 04/05/2023
Arwyddion-Signs

Gyda sawl gŵyl y banc yn ystod mis Mai, a nifer fawr o bobl yn manteisio ar y cyfle i fwynhau traethau ac arfordir Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb i wneud hynny yn ddiogel a chymryd pob gofal.

Yn benodol, mae galwadau ar i bobl gymryd gofal os ydynt yn mynd a’u cerbydau ar draethau ac i barchu eraill a’r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Economi a Chymuned:

“Mae glannau Gwynedd yn enwog am eu harddwch a’u cyfoeth o fyd natur, ond mae’n bwysig fod pawb sy’n ymweld yn ymwybodol o beryglon yr arfordir a thrin yr amgylchedd naturiol gyda pharch.

“Rydym yn atgoffa pobl i gynllunio eu hymweliad i lan y môr drwy wirio rhagolygon y tywydd, bod yn ymwybodol o’r llanw ac i drin y môr gyda pharch.

“Er fod y gwanwyn wedi cyrraedd, mae’r môr yn gallu bod yn hynod o oer felly cymrwch bwyll os byddwch yn ystyried mynd i’r dŵr a sicrhau eich bod yn dilyn yr holl gyfarwyddiadau diogelwch. Peidiwch â mentro ymdrochi os nad ydych yn ffyddiog bod y gallu gennych i ddychwelyd i’r lan yn ddiogel a chofiwch ddweud wrth rywun ble ydych yn mynd. Os ydych ym morio, yna sicrhewch fod pob offer diogelwch gennych yn y cwch, a byddwch yn ystyriol o eraill drwy gydffurfio gyda rheolau mordwyo.”

Ychwanegodd Bryn Pritchard-Jones o Wasanaeth Morwrol Cyngor Gwynedd: “Ein neges ydi i bobl fwynhau’r traeth yn ddiogel a thrin arfordir Gwynedd gyda pharch.

“Os ydych yn dod a’ch car i’r traeth, cofiwch fod yn gyfrifol a meddwl am eraill. Byddwch yn ystyriol wrth barcio eich car ar ffyrdd ger y traeth a meddyliwch os fydd damwain neu rywun yn cael eu taro’n wael, a fydd y gwasanaethau brys yn gallu cael mynediad? Yn yr un modd, os nad oes lle yn y maes parcio na’r ffordd, ystyriwch os allwch ymweld â glan môr neu atyniad arall.

“Mae rhai glannau môr yng Ngwynedd ble caniateir gyrru cerbyd ar y blaendraeth. Rydym yn atgoffa gyrwyr i yrru gyda phwyll a’r gofal eithaf ac i gadw at y cyfyngiad cyflymder o 10 milltir yr awr tra ar y traeth ac i wirio’r amodau lleol rhag i’r cerbyd fynd yn sownd mewn tywod meddal neu gael ei foddi gan y llanw.”

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn atgoffa pawb i barchu’r amgylchedd a’r gymuned wrth fwynhau glan môr a chefn gwlad y sir drwy waredu â’ch sbwriel yn gyfrifol drwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu mynd ag o gartref. Mae taflu sbwriel ar lawr neu beidio codi baw eich ci yn drosedd ac yn gwneud ein cymunedau yn flêr, yn gallu achosi damwain i bobl eraill ac yn niweidiol i’r amgylchedd.

Mae gwybodaeth am atyniadau ymwelwyr yng Ngwynedd, sut i gynllunio eich taith a llawer mwy ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr, ewch i: www.ymweldageryri.info, gyda gwybodaeth benodol am draethau Gwynedd yma: www.ymweldageryri.info/cy/traethau-ar-arfordir. Neu dilynwch @ymweldageryri ar y cyfryngau cymdeithasol.