Dim goddef gyrru peryglus ar draeth Morfa Bychan

Dyddiad: 04/01/2024

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r newyddion o ddedfrydu dau ddyn yn ddiweddar am droseddau gyrru peryglus ar draeth Morfa Bychan, sydd yn anfon neges glir na fydd gyrru anghyfrifol yn y lleoliad hwn yn cael ei oddef.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned:

 

"Fel rhywun sy'n byw yn lleol ac sy'n ymweld â thraeth bendigedig Morfa Bychan yn aml, rwy'n gwybod pa mor boblogaidd ydi o gyda thrigolion lleol a thwristiaid. Ond dylai pawb fedru mwynhau eu hunain ar y traeth heb orfod poeni am eu diogelwch eu hunain a’u teuluoedd oherwydd unigolion hunanol yn gyrru’n wyllt ar y traeth.

 

"Gall modurwyr dalu i gael mynediad a pharcio ar y traeth yma ac mae’r mwyafrif helaeth yn parchu'r rheolau ac yn gyrru'n gyfrifol ar y traeth, ond yn anffodus mae nifer fach yn ymweld ac yn torri’r gyfraith drwy yrru’n anghyfrifol ac yn ddiofal.

 

"Fel Cyngor rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod modurwyr yn cadw at y rheolau ar gyfer y traeth .

 

"Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio’n galed i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y traeth a dwi’n gobeithio fod y ddedfryd yma yn tanlinellu na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r math yma yn cael ei oddef.”

 

Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n pryderu am unrhyw gerbydau neu ymddygiad unrhyw yrwyr ar draeth Morfa Bychan gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan nodi rhif cofrestru’r cerbyd.