Diddordeb gweithio yn y maes gofal?

Dyddiad: 02/01/2024
Cynhelir dau ddigwyddiad recriwtio staff gofal ar gyfer cartrefi Plas Hedd, Bangor a Bryn Blodau, Llan Ffestiniog fel rhan o ymgyrch ehangach Cyngor Gwynedd i fynd i’r afael â heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes.

 

Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb dod i weithio i un o’r ddau gartref, neu a fyddai’n hoffi mwy o wybodaeth am y maes yn gyffredinol, alw heibio un o’r sesiynau:

  • Canolfan Ieuenctid, Maesgeirchen, Bangor (LL57 1LS) - dydd Mercher, 17 Ionawr, 9am-5pm.
  • Pengwern, Llan Ffestiniog (LL41 4PB) - dydd Mawrth, 30 Ionawr, 2-5pm.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd:

 

“Mae sicrhau fod digon o staff yn y maes gofal yn her sy’n wynebu gwasanaethau ar hyd a lled y wlad. Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o’n staff ymroddedig sy’n darparu gofal o safon i bobl mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned ac mi wn i fod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn ddyddiol.

 

“Fel rhan o’n hymdrech barhaus i recriwtio i’r maes gofal, rydym yn cynnal dau sesiwn recriwtio ar gyfer Cartref Plas Hedd a Chartref Bryn Blodau. Bydd y ddau yn rhoi cyfleoedd i ddarpar-staff glywed am y gwaith a dysgu am y buddion o weithio i ni fel Cyngor.

 

“Felly os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi helpu pobl ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mawr o fewn eich cymuned leol, yna mi fyddwn i’n eich annog i ddod draw un o’r sesiynau.”

 

Bydd y digwyddiad yn gyfle i wybod mwy am sut mae’r Cyngor yn cefnogi staff yn y gwaith, er enghraifft hyfforddiant, pensiwn, pecyn buddiannau staff a chefnogaeth i staff newydd. Bydd cyfle yn ogystal i gael blas ar ddiwrnod gwaith gan rai o staff gofal cyfredol Cyngor Gwynedd.

 

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy am weithio mewn cartref preswyl ddod i’r unrhyw un o’r sesiynau. Neu mae mwy o wybodaeth am weithio yn y maes gofal ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/GalwGofalwyr