Cynllun Gofal Plant Dwy Oed Gwynedd

Dyddiad: 24/01/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar rieni plant bach i wirio os ydynt yn gymwys am ofal plant rhad ac am ddim allai roi hwb i ddechrau bywyd addysgol eu plentyn ac arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i’r teulu.

Ers i Gyngor Gwynedd lansio’r cynllun blaengar yn mis Awst llynedd, mae mwy na 60 o blant dyflwydd oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir wedi elwa ar gyfanswm o fwy na 2,300 o oriau o ofal.

Ar hyn o bryd, mae’r cynllun ar gael i deuluoedd sy’n byw o fewn codau post penodol yn yr ardaloedd canlynol:

  • Bangor – Hendre, Hirael, Garth 2, Dewi
  • Abermaw
  • Porthmadog – Tremadog a Porthmadog Dwyreiniol
  • Bala 
  • Blaenau Ffestiniog – Teigl
  • Caernarfon – Seiont 2

Gall teuluoedd fynd i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/GofalPlant2oed i wirio os ydynt yn gymwys ac i lenwi ffurflen gais.

Bydd teuluoedd cymwys yn cael cynnig 12.5 awr o ofal dros bum diwrnod yr wythnos, sef naill ai pum sesiwn bore neu pum sesiwn prynhawn, sy’n gyfwerth â £2,925 o ofal am ddim y flwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:

 

“Prif amcan y cynllun blaengar hwn yw sicrhau bod cymaint o blant â phosib yn gallu manteisio ar ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel.

“Dwi’n hynod falch fod y Cyngor yn gallu gwneud y cynnig gwych hwn. Nid yn unig mae’n helpu i osod seiliau cadarn i fywyd ysgol unrhyw blentyn, ond mae hefyd yn mynd i’r afael ag amddifadedd, yn cynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ac yn cyfrannu tuag at lenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth sydd ar gael.

“Roedd yn fraint gweld y cynllun yn cael ei lansio’n swyddogol ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd dros yr haf a rydw i’n hynod ddiolchgar am waith y swyddogion o flaen llaw yn trafod gyda darparwyr gofal plant ac yn gweithio ar fanylion y cynllun.

“Rydw i’n annog teuluoedd sy’n byw yn yr ardaloedd hyn ac sydd ddim wedi gwneud cais eto i fwrw golwg a gweld os ydynt yn gymwys. Mae cael mynediad i ofal plant da yn lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad plentyn a gall y cymorth yma roi hwb i rieni wrth iddynt ddechrau meddwl am ddychwelyd i hyfforddiant neu waith.”

 

Mae yna 20 darparwr gofal plant wedi cofrestru ar y cynllun hyd yma, gan gynnwys Cylch Meithrin Y Tonnau yn Abermaw. Dywedodd Siân Evans, Arweinydd y Cylch:  

“Mae’r cynllun Gofal Plant 2 oed wedi bod yn llwyddiant aruthrol i ni, gyda’rnifer sy’n mynychu sesiynau prynhawn wedi codi i 10 o blant.

“Mae’r plant yn cael rhyddid i archwilio, gwneud ffrindiau a chael profi byd ysgol ac mae’r trosiad yn haws wrth iddynt gychwyn yn y cylch gan eu bod wedi arfer bod oddi wrth eu rhieni ac wedi dod i adnabod y staff yn barod.

“Hefyd, mewn ardal gyda phoblogaeth ddi-Gymraeg uchel, mae’r cynllun yn rhoi’r dechreuad gora i’r plant gael ymdrochi yn y Gymraeg. 

“Mae’r rhieni yn hapus iawn gyda’r cynllun newydd gan ei fod yn rhoi’r cyfle iddynt baratoi a chynllunio i fynd yn ôl i weithio. A gyda’r sesiynau am ddim, mae’n rhyddhau arian iddynt dalu am ragor o sesiynau sydd wedyn o fudd i’r plant ac i’r Cylch.”

Am fwy o wybodaeth am y cynllun, ac i wneud cais, dylai rhieni a gwarcheidwaid fynd i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/GofalPlant2oed neu gysylltu â’r gwasanaeth ar 01248 352436 / gofalplant2oed@gwynedd.llyw.cymru

 

Nodiadau:

 

Fel rhan o gam dau o’r Cynllun Dechrau’n Deg, bydd y plant cymwys gyda’r hawl i dderbyn 12.5 awr yr wythnos o ofal plant, am dri thymor, yn dilyn eu pen-blwydd yn ddwy oed.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru, yn sgil y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, gyhoeddi buddsoddiad o £630,000 drwy ei Grant Plant a Chymunedau iymestyn y rhaglen Dechrau'n Deg.