Cyngor Gwynedd yn diogelu coeden hynafol ym Mharc Meurig, Bethesda

Dyddiad: 08/01/2024

Bydd gwaith yn cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd i geisio achub coeden hynafol a hanesyddol mewn parc cyhoeddus ym Methesda, fel rhan o becyn ehangach o fuddsoddiad yn yr adnoddau amgylcheddol a chymunedol lleol.

 

Bydd cyfle i bobl leol sydd â diddordeb yn y mater, neu sy’n pryderu am ddyfodol y goeden, siarad efo swyddogion Bioamrywiaeth y Cyngor yn ystod sesiwn anffurfiol i’w gynnal ddydd Sadwrn, 10 Chwefror 2024, 11am-1pm.

 

Saif y goeden dderwen sy’n ganrifoedd oed yn Parc Meurig yn y dref, ac fel rhan o waith ehangach i uwchraddio’r adnoddau yn y parc, mae swyddogion Bioamrywiaeth y Cyngor wedi canfod fod y goeden mewn cyflwr gwael iawn ac y gallai achosi perygl i’r cyhoedd.

 

Er mwyn amddiffyn hirhoedledd y goeden, a hefyd sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy’n defnyddio’r ardal i ymlacio a chymdeithasu, bydd y Cyngor yn codi ffens o’i chwmpas a bydd rhan o’r canopi yn cael ei dorri yn ôl. 

 

Eglurodd Jack Walmsley, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Yn ystod archwiliadau cychwynnol o’r holl goed yn Parc Meurig, daeth yn amlwg i ni fod rhan fawr o foncyff y goeden hynafol hon wedi pydru. Yn dilyn archwiliadau mwy manwl gan arbenigwr allanol, canfuwyd fod ffwng wedi heintio’r goeden a fod y pydredd yn ymledu drwy ei strwythur a gall achosi mwy o niwed difrifol i’r boncyff.

 

“Golygai hyn fod posibilrwydd real i’r canghennau ddod lawr – yn enwedig ar dywydd gwyntog a gaeafol – gan achosi niwed neu anaf. 

 

“Rydan ni wedi bod yn siarad â nifer fawr o bobl leol ac mae pawb yn deall difrifoldeb y sefyllfa. Rydan ni’n tybio fod y goeden brydferth hon yn dyddio’n ôl hyd at 500 mlynedd a does neb eisiau gweld ei cholli na chwaith gweld unrhyw un yn cael eu brifo gan ganghennau yn disgyn.”

 

Bydd gwaith felly yn cael ei wneud i osod ffens o gwmpas y goeden i atal neb rhag cerdded yn uniongyrchol o dan y canopi. Yn ogystal, bydd gwaith yn cael ei gynnal i dorri rhannau o’r goeden er mwyn lleihau’r canopi, fydd yn rhoi gwell siawns iddi oroesi. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Amgylchedd: “Mae Parc Meurig yn adnodd cymunedol bwysig i Ddyffryn Ogwen. Mae gan yr ardal gysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant – sydd wrth gwrs yn arwyddocaol iawn i ddiwylliant Cymru – a mae’n siŵr fod cenedlaethau o blant wedi dychmygu Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach yn byw yma dan ganghennau coed derw Parc Meurig. 

 

“Mae archwiliadau ein swyddogion wedi datgelu cyflwr bregus y goeden ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i weld beth ellir ei wneud i gael y cydbwysedd cywir rhwng diogelu’r cyhoedd, diogelu’r goeden a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt. Nid ydym yn cymryd unrhyw benderfyniad yn ysgafn ac yn sicr ni fydd y goeden yn cael ei thorri i lawr.

 

“Mae’n bwysig cofio fod hwn yn barc poblogaidd iawn. Mae llwybr troed prysur yn pasio o dan canghennau’r goeden ac mae llawer o blant yn dod yma i chwarae felly mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i ddiogelu unrhyw un sy’n ymweld.”

 

Daeth y sefyllfa i’r amlwg yn ystod prosiect i wella Parc Meurig, gan gynnwys plannu coed cynhenid, clirio rhywogaethau ymledol, gosod meinciau ac adnoddau hamdden eraill, trwsio’r waliau cerrig o gwmpas terfyn y parc a gwneud gwell defnydd o’r hen gwrt tennis. Bydd y gwaith hyn yn parhau er gwaetha’r sefyllfa sydd wedi codi gyda’r goeden.

 

Bydd swyddogion Bioamrywiaeth ar gael i siarad â’r cyhoedd yn ystod sesiwn anffurfiol yn Parc Meurig ar ddydd Sadwrn, 10 Chwefror 2024 rhwng 11am a 1pm. Os oes aelodau o’r cyhoedd â diddordeb yn y mater ond ddim yn gallu mynychu, mae modd anfon cwestiynau am y sefyllfa at coed@gwynedd.llyw.cymru