Cyngor Gwynedd yn annog pobl i gymryd gofal dros y gaeaf

Dyddiad: 12/01/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi creu pecyn cynhwysfawr o wybodaeth ymarferol, cefnogaeth ariannol a manylion cyswllt defnyddiol er mwyn helpu pobl y sir ddygymod trwy fisoedd hir y gaeaf.

Gall y cyfuniad o dywydd garw a’r argyfwng costau byw greu sefyllfa hynod heriol i nifer o bobl, yn enwedig rheini sy’n fregus oherwydd eu hoedran, eu hiechyd neu am eu bod yn ynysig. Bwriad y pecyn gwybodaeth yw rhoi pobl ar ben ffordd o ran sut mae cael y cymorth mae’n nhw’n gymwys amdano ac atal sefyllfaoedd anodd rhag troi’n argyfyngus.

Mae’r copïau print a fersiwn digidol ar gael o’r pecyn, ac ymysg y wybodaeth ceir manylion am:

  • Cymorth i wresogi eich cartref gan gynnwys manylion am gefnogaeth ariannol posib i bobl daclo tlodi tanwydd;
  • Manylion cyswllt gwasanaethau cyhoeddus perthnasol;
  • Manylion budd-daliadau a chymorth ariannol eraill y gall pobl fod yn gymwys amdano;
  • Lleoliadau ‘Croeso Cynnes’, sef cynllun cymunedol sy’n cynnig rhywle cynnes a diogel i bobl gwrdd am sgwrs.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain yr agenda trechu tlodi:

“Mae helpu pobl i ddygymod ag effeithiau’r argyfwng costau byw yn flaenoriaeth i ni yma yng Nghyngor Gwynedd, felly dwi’n hynod falch fod y pecyn gwybodaeth yma ar gael. Bydd o gymorth i gadw pobl yn ddiogel a chysurus.

“Gyda misoedd hir y gaeaf o’n blaenau, dwi’n gwybod y bydd yn gyfnod anodd i nifer fawr o bobl yma yng Ngwynedd. Mae’r cyfuniad o gostau ynni uchel, y sefyllfa economaidd gyfredol, y math o gartrefi mae llawer o bobl Gwynedd yn byw ynddyn nhw’n a’r ganran uchel o bobl hŷn sy’n byw yng Ngwynedd yn golygu fod llawer o bobl leol yn fregus iawn yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Mi fyddwn yn annog pobl i gadw golwg am gopi o’r pecyn gwybodaeth, naill ai iddynt eu hunain, aelod o’r teulu neu gymydog. Mae camau bychan gall pob un ohonom eu cymryd er mwyn cadw ein hunain yn ddiogel ac iach.”

Mae’r pecyn ar gael:

·       Ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf a dewis y botwm “Cefnogaeth a chyngor i bobl hŷn”

·       Copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd y sir – mae rhestr o leoliadau ac oriau agor ar gael yma: www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgelloedd

·       Copïau papur ar gael yn Hybiau Cymunedol Gwynedd – mae rhestr o leoliadau a gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw a dewis “Cefnogaeth bellach a hybiau cymunedol”.

Mae’r pecyn gwybodaeth hwn ar gyfer pobl hŷn yn ychwanegol i’r wybodaeth gyffredinol ymarferol am sut i baratoi am effeithiau tywydd garw, sydd hefyd ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf 

Gellir arbed y tudalennau hyn fel ffefrynnau ar eich cyfrifiadur / llechen / ffôn rhag ofn y bydd angen cyfeirio ato eto.  

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Yn ogystal a mynnu eich copi o’r pecyn gwybodaeth, mi fyddwn yn annog pobl leol i gadw llygaid am wybodaeth bellach am gymorthdaliadau a help ymarferol maent yn gymwys amdano ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

“Mae ein swyddogion hefyd yn mynychu digwyddiadau cymunedol ac yn cynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb sy’n gyfle i siarad efo pobl o bob oedran a chefndir am pa gymorth sydd ar gael.”