CYNLLUN LLESIANT GWYNEDD A MÔN - CYFLE I DDWEUD EICH DWEUD

Dyddiad: 16/01/2023
Mae cyfle i bobl leol roi eu barn ar gynlluniau i wella cymunedau Gwynedd a Môn ac i rannu syniadau am sut gall gwasanaethau cyhoeddus gydweithio i’r pwrpas hwn.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn – sy’n cynnwys y ddau Gyngor Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sefydliadau eraill– wedi llunio ei Gynllun Llesiant Drafft 2023-28 gyda’r bwriad o wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.  Mae cyfle i drigolion lleol rannu barn ar y cynnwys drwy lenwi holiadur byr.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi adnabod tri amcan llesiant ac am wybod os ydi pobl leol yn credu y bydd y cynlluniau yn helpu i wneud pethau'n well i gymunedau lleol. Mae cyfle hefyd i bobl rannu syniadau am sut y gall aelodau’r Bwrdd gydweithio er budd ein cymunedau yn unol â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r Cynllun Llesiant Drafft yn ffrwyth gwaith ymchwil drwy Asesiadau Llesiant ac ymarferiad ymgysylltu ‘Ardal Ni 2035’ yng Ngwynedd, sydd wedi rhoi trosolwg o anghenion a dyheadau unigolion a mudiadau lleol.

Meddai Aled Jones-Griffith, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:

“Mae gennym weledigaeth fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau yn ffynnu ac yn llewyrchus i’r hir dymor. Nod y Cynllun Llesiant yw gosod allan sut yr ydym am gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd a Môn. Fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus byddwn yn cydweithio i gyflawni uchelgais cyffredin ar gyfer yr ardal gyfan.

“Mae ein cymunedau yn rhai cryf a balch, gyda thraddodiad o helpu’n gilydd ac o gydweithio. Bydd rôl cymunedau lleol yn ganolog wrth gyflawni’r amcanion llesiant drafft sydd wedi eu gosod yn y cynllun ac rydym ni’n awyddus iawn fod barn pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn cael ei ymgorffori wrth i ni osod yr amcanion gorau posib er mwyn gallu gwella llesiant ein trigolion.

“Bydd yr holl sylwadau a gyflwynir yn cael eu hystyried wrth i ni benderfynu ar y cynllun terfynol.”

I ddweud eich dweud ar y cynllun, gallwch lenwi’r holiadur ar-lein ar https://www.llesiantgwyneddamon.org/cy/Cynllun-Llesiant/ neu mae copïau papur ar gael drwy law eich llyfrgell leol, Siop Gwynedd, neu drwy Cyswllt Môn.

Os am gopi papur trwy’r post neu mewn fformat amgen cysylltwch gyda post@llesiantgwyneddamon.org neu 01766 771000

Bydd yr holiadur ar gael hyd nes 6 Mawrth, 2023.