Ysgolion Gwynedd yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr o Kenya
Dyddiad: 20/10/2025
Mae plant o dair ysgol yn Llŷn wedi bod yn rhan o sesiynau cyfnewid diwylliannol gyda phobl ifanc o Kenya a’r gobaith nawr yw parhau a’r berthynas ryngwladol i’r dyfodol.
Yn ddiweddar, croesawyd grŵp o blant a phobl ifanc o Kenya i Ysgol Sarn Bach, Ysgol Pont-y-Gof ac Ysgol Botwnnog fel rhan o daith wedi ei threfnu gan elusen “Educate the Kids” pryd cafwyd cyfle i rannu iaith, diwylliant a chyd-chwarae.
Bu’r plant ysgol lleol yn dawnsio gwerin a chanu caneuon Cymreig a cafwyd ymweliad gan Tudur Phillips i roi gwersi clocsio. Rhoddodd y côr yr ymwelwyr o Kenya sawl perfformiad swynol.
Bu’r bobl ifanc i gyd hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon a gemau pêl droed hwyliog, gan roi cyfle i blant o wahanol gefndiroedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o gyfeillgarwch a chydweithio.
Yn ystod eu hymweliad ag Ysgol Botwnnog, cafodd y plant o Kenya’r cyfle i gael gwersi Iaith Gymraeg gyda disgyblion Blwyddyn 7.
Meddai Aled Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Botwnnog:
“Roedd y profiad o groesawu’r ymwelwyr i’r ysgol yn un fydd yn aros yn y cof i bawb. Roedd yr emosiwn a’r boddhad yn amlwg ar wynebau pawb, ac rwyf yn awyddus ein bod fel ysgol yn medru cynnal perthynas a pharhau i gefnogi’r elusen yn eu gwaith arbennig i’r dyfodol.”
Dywedodd Nina Williams, Pennaeth Ysgol Sarn Bach:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu’r plant i Ysgol Sarn Bach drwy gynnal digwyddiad llawn llawenydd, dysgu a chysylltiadau newydd—profiad bythgofiadwy i bawb a gymerodd ran. Ar ôl y perfformiadau, roedd yn braf gweld pawb yn mwynhau cinio gyda’i gilydd, rhannu straeon, chwerthin a chreu cysylltiadau newydd.”
Ychwanegodd Bethan Jones, Pennaeth Ysgol Pont y Gof:
"Roedd derbyn plant o Ysgol Jolaurabi i Ysgol Pont y Gof yn brofiad anhygoel i'r plant a ni fel staff, yn brofiad nawn ni byth anghofio. Roedd gweld dwy wlad, dwy ysgol, dwy iaith a dau ddiwylliant yn dod yn un, yn ffrindiau yn rhywbeth arbennig iawn. Rydym yn edrych ymlaen at gadw cysylltiad gyda'r plant a'r ysgol er mwyn dysgu ganddynt a'u cefnogi gymaint ag y gallwn."
Roedd yr ymwelwyr o Kenya yn gwneud taith chwech wythnos o gwmpas y DU, yn cynnal cyngherddau i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at gwaith hanfodol i gyfarch effaith tlodi a diffyg cyfleoedd, ac ehangu cyfleusterau dysgu yn yr ysgol.
Mae’r ymweliad gyda’r ysgolion yng Ngwynedd wedi bod yn bosibl diolch i ymdrechion Heather Munroe sy’n byw yn lleol, ac sydd wedi bod yn ymwneud â’r elusen ers blynyddoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyngor Gwynedd:
“Mae'n wych bod grŵp o bobl ifanc o ardal Ysgol Jolaurabi, Kenya wedi ymweld a Gwynedd yn ddiweddar. Mae eu hymweliadau gyda ein hysgolion nid yn unig wedi bod yn gyfle i ddangos ein hiaith a’n ffordd o ddysgu, ond hefyd yn gyfle gwerthfawr i rannu profiadau, syniadau a breuddwydion ar draws diwylliannau.
“Mae’r awydd i ddysgu a rhannu profiadau gan y bobl ifanc hyn wedi ysbrydoli ein cymunedau addysgol, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y cyfle o’u croesawu. Mae’r cysylltiadau a grëwyd yn ystod yr ymweliad yn dangos bod addysg, cyfeillgarwch a chydweithio yn gallu pontio unrhyw ffin.”