Wythnos Busnes Gwynedd 2025
Dyddiad: 10/10/2025
Cynhelir Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2025 rhwng 20 a 24 Hydref, gan roi cyfle i fusnesau a sefydliadau ledled y sir ddod at ei gilydd i gysylltu, dysgu a thyfu.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal gan Gyngor Gwynedd yn ogystal â sefydliadau cymorth busnes eraill mewn gwahanol leoliadau yng Ngwynedd ac ar-lein. Mae’r rhaglen eleni’n cynnig amrywiaeth o weminarau, gweithdai ymarferol a chyfarfodydd ysbrydoledig i gefnogi busnesau lleol o bob maint a sector.
Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Brecwast Busnes yng Nghricieth, Dolgellau a Chaernarfon, sy'n cynnig cyfleoedd rhwydweithio a mewnwelediadau gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig a sefydliadau cymorth
- Sesiwn gyda'r nos a gynhelir gan Syniadau Mawr Cymru, wedi'i hanelu at entrepreneuriaid ifanc ac yn cyfuno profiadau bywyd go iawn, gweithgareddau creadigol ac arweiniad ar ddechrau busnes
- Gweminar a digwyddiad mewn person a gynhelir gan ARFOR, sy'n archwilio gweithleoedd llwyddiannus, rôl y Gymraeg yn y gweithle, a sut y gall cyflogwyr gefnogi a datblygu talent ifanc
- Digwyddiad Rhwydweithio Merched Mentrus, sy’n cynnig cyfle i fenywod busnes gysylltu, rhannu profiadau a magu hyder
- Gweithdy LinkedIn Ar Gyfer Busnes sydd wedi'i gynllunio i helpu mynychwyr i gael y gorau o LinkedIn ar gyfer hyrwyddo a thyfu eu busnes
- Hanfodion Cychwyn Busnes - sesiwn ar-lein sy'n cynnig arweiniad clir i'r rhai sy'n ystyried - eu camau cyntaf tuag at entrepreneuriaeth
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn ddyddiad pwysig yn y calendr, gan roi cyfle i fusnesau o bob maint rannu syniadau, meithrin cysylltiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae'r rhaglen eleni yn cynnig mewnwelediadau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ac ysbrydoli, ac rwy'n falch bod gennym gymuned fusnes mor gref a chefnogol yma yng Ngwynedd.
“Trwy gydweithio, rhannu syniadau a dysgu gyda’n gilydd, gallwn adeiladu economi lewyrchus sy’n addas ar gyfer heriau’r dyfodol. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n rhedeg busnes sefydledig, mae'r wythnos yn cynnig rhywbeth i bawb.”
Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru ar gyfer pob digwyddiad ar gael ar dudalen Digwyddiadau Busnes Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DigwyddiadauBusnes
Am ddiweddariadau ac uchafbwyntiau o’r digwyddiadau, dilynwch busnes@Gwynedd ar Facebook.