Podlediad Cyngor Gwynedd yn trafod pwysigrwydd cwsg iach i blant
Dyddiad: 02/10/2025
Mae’r bennod ddiweddaraf yn y gyfres o bodlediadau iaith Gymraeg i helpu teuluoedd ar y daith trwy flynyddoedd allweddol plentyndod wedi ei gyhoeddi, gyda phwysigrwydd patrymau cwsg iach yn cael sylw y tro hwn.
Dyma’r bedwaredd bennod yn y gyfres podlediadau “Mam, Dad a Magu” sydd wedi ei greu gan Gyngor Gwynedd ac ar gael ar lwyfannau YouTube, Apple a Spotify. Y tro hwn mae’r actores a’r podledwraig Mari Elen yn trafod gyda Rhian Mills, Hyfforddwr Cysgu a’r Cerddor Yws Gwynedd am eu profiadau hwy.
Mae’r bennod newydd yn archwilio pwysigrwydd cwsg iach i blant o bob oed, gan gynnig cyngor arbenigol, straeon personol rhieni, a thrafodaeth am ffyrdd ymarferol o feithrin arferion cwsg cadarnhaol.
Mae Rhian a Yws yn rhannu a thrafod eu profiadau personol o fagu plant gyda Mari; yr heriau maent wedi profi, a’r hyn sydd wedi gweithio iddynt hwy wrth ddygymod gyda phatrymau cysgu.
Meddai Mari: “Y sioc mwyaf i fi pan nes i ddod yn fam oedd y diffyg cwsg a sut i ddelio hefo hynny. Dwi mor falch mod i di gallu bod yn rhan o’r bennod gwych yma o ‘‘Mam, Dad a Magu’’ a siarad yn agored am normaleiddio y teimladau cymysg mae rhywun yn gael yn ystod y cyfnod cyntaf yna.”
Ychwanegodd Yws Gwynedd: “Nes i fwynhau bod yn rhan o’r sgwrs – mae o wedi’n atgoffa i, i gofio mai cyfnodau ydi pob dim tra’n magu plant, a faint mor bwysig ydi cwsg i blant a rhieni!”
Sbardunwyd swyddogion o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i greu’r gyfres podlediadau “Mam, Dad a Magu” wedi gweld yr angen am ffordd newydd o siarad efo rhieni am broblemau cyffredin sy’n yn gallu cael effaith ar ddatblygiad naturiol plant, a hynny yn Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Mae dod o hyd i gynnwys Cymraeg ar-lein sy’n trin a thrafod materion cyffredin wrth fagu teulu yn anodd iawn. Mae cymaint ar gael drwy gyfrwng y Saesneg, ond mae’n holl bwysig bod cynnwys i gefnogi teuluoedd ar gael hefyd drwy’r Gymraeg - yn enwedig mewn ardal fel Gwynedd lle mae trafod yn y Gymraeg yn gwbl naturiol.
“Dwi’n falch iawn bod yr ymateb i’r podlediadau hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda cannoedd wedi gwrando i mewn hyd yma. Credaf fod llwyddiant y cyfrwng yw’r gallu i ymdrin â materion sensitif mewn ffordd agos-atoch, cynnes ac ysgafn.
“Mae’n bwysig cofio fod pob plentyn yn datblygu ac yn dysgu yn ei ffordd ei hun, ac nad ydynt yn cystadlu efo plant eraill i gyrraedd y cerrig milltir. Dwi’n hynod falch bod y podlediadau ar gael fel teclyn cymorth i deuluoedd Gwynedd i gefnogi eu plant ar hyd y ffordd.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor brysur ydi bywyd i bawb sy’n magu plant, felly cofiwch fod modd gwrando neu wylio’r rhifynnau blaenorol o’r podlediadau ar amser sy’n eich siwtio chi.”
Mae’r podlediad “Mam, Dad a Magu” yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud a magu plant. Mae ar gael yn rhad ac am ddim ar blatfformau poblogaidd fel YouTube, Spotify, Apple ac Amazon: https://shor.by/Mam-Dad-a-Magu
Mae’r penodau eraill yn y gyfres sydd ar gael i wrando nôl arnynt yn trafod bronfwydo, iechyd meddwl, a toiledu.
Mae gwybodaeth ac adnoddau i helpu teuluoedd ar gael gan Gyngor Gwynedd - ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/TeuluGwynedd neu drwy gysylltu â thîm Teulu Gwynedd ar 01286 678824.