Heneiddio'n dda yng Ngwynedd Cyfle i bobl y sir ddweud eu dweud ar anghenion llety

Dyddiad: 27/10/2025

Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed am brofiadau, barn a dyheadau pobl y sir am lle a sut mae’n nhw eisiau byw wrth iddynt heneiddio.

Mae’r Cyngor yn cynllunio ar gyfer anghenion llety i bobl hŷn yn y tymor hir, ac i’r pwrpas hwn yn awyddus i gael gwybod pa fath o gartrefi mae pobl leol yn byw ynddynt ar hyn o bryd a pha fath o gartrefi yr hoffent fyw ynddynt wrth iddynt heneiddio. Mae’r Cyngor hefyd eisiau gwybod pa gefnogaeth, gwasanaethau ac adnoddau mae pobl ei angen er mwyn byw yn gyfforddus i’r dyfodol.

Mae demograffi Gwynedd – fel siroedd gwledig eraill – yn newid, gyda cyfran uwch o bobl dros 55 oed. Yn ogystal, diolch i welliannau meddygol a newidiadau cymdeithasol eraill, mae pobl yn gyffredinol yn byw i fod yn hŷn.

O’r herwydd, mae’n rhaid i awdurdodau fel Cyngor Gwynedd addasu er mwyn cwrdd ag anghenion y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau darpariaeth ddigonol o lety addas, er enghraifft tai gofal ychwanegol, tai gwarchod ac eiddo wedi ei addasu.

Mae cyfle i bobl Gwynedd gymryd rhan yn y gwaith ymchwil, drwy lenwi holiadur syml. Gellir gwneud hyn:

  • Ar-lein – Mae’r holiadur ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/arolwgheneiddioyndda
  • Copi papur – Mae copïau papur o’r holiadur ar gael yn Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau) ac yn llyfrgelloedd y sir.
  • Drwy’r post – Os am gopi papur (neu mewn fformat arall) drwy’r post, cysylltwch os gwelwch yn dda â: GrantCymorthTai@gwynedd.llyw.cymru / 01286 682606.

 

Bydd yr holiadur yn cau ar 7 Rhagfyr, 2025, a bydd swyddogion y Cyngor yn cymryd yr holl atebion a sylwadau dderbyniwyd i ystyriaeth wrth ddatblygu cynlluniau a pholisïau’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phencampwr Oed Gyfeillgar:

“Mae Gwynedd yn le da i fyw a rydym yn hynod falch i’r sir gael ei chydnabod fel Cymuned Oed Gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y llynedd.

“Wrth i’n poblogaeth newid a heneiddio, mae’n hollbwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, fel oedd yn cael ei egluro yn yr Adroddiad Llechen Lan a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ddiweddar. Rydym eisiau sicrhau bod pobl hŷn yng Ngwynedd yn gallu byw’n gyfforddus, yn annibynnol ac yn ddiogel mewn cartrefi sy’n addas i’w hanghenion ac mewn cymunedau sy’n eu cefnogi. Yn wir, mae maes tai yn flaenoriaeth rydym wedi ymrwymo i’w ddatblygu fel rhan o’r achrediad Oed Gyfeillgar.

“Mae’r arolwg hwn yn gyfle i bobl rannu eu profiadau a’u dymuniadau – gan gynnwys sôn am y math o lety y maent yn byw ynddo, neu’r gefnogaeth y byddai’n eu helpu i fyw’n dda wrth iddynt fynd yn hŷn.

“Mae eich barn yn hanfodol i’n helpu i lunio gwasanaethau sy’n wirioneddol gweithio i bobl Gwynedd. Felly, os ydych chi dros 55 oed, neu os oes gennych chi farn am sut i wella bywyd i bobl hŷn yn ein cymunedau, os gwelwch yn dda llenwch yr holiadur. Mae eich llais yn cyfrif.”