Gofalwyr Maeth Gwynedd yn dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth

Dyddiad: 13/10/2025

Mae gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn dathlu cyfraniad hollbwysig eu plant eu hunain at y daith faethu.

Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 - 19 Hydref), bydd gofalwyr Maethu Cymru Gwynedd yn rhannu hanesion am y ffyrdd mae eu plant wedi helpu i wneud i'r rheini sydd mewn gofal deimlo yn fwy hapus a diogel, a bod mwy o groeso a chariad iddynt.

Mae rhai pobl yn dweud mai  un o'r pethau sy'n eu rhwystro rhag dod yn ofalwr maeth yw’r effaith bosib y bydd hyn yn ei chael ar eu plant, ond mae llawer o blant yn gweld manteision  bod yn rhan o deulu sy'n maethu. Mae gweld bywyd o safbwynt rhywun arall yn gallu bod yn brofiad cyfoethog sy'n medru helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn medru meithrin eu perthynas eu hunain gyda phlant maeth yn eu cartref.

Mae Karen a Marc wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Gwynedd, ers 2016, ac maent wedi cael cefnogaeth eu tri phlentyn - Emma, Ben a Lewis - bob cam o'r ffordd. I'w plant nhw, mae maethu yn golygu mwy na rhannu eu tŷ; maent wedi croesawu pob plentyn fel gwir aelod o'r teulu.

Dros y blynyddoedd, mae'r teulu wedi rhoi cariad, sefydlogrwydd a chysur i blant sy'n wynebu dechrau anodd iawn i'w bywydau - o fabis bach newydd-anedig i blant ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae eu merch hynaf, Emma - sy'n 21 oed erbyn hyn - wedi rhannu ei phrofiad teimladwy o gael ei magu fel rhan o deulu maethu drwy Maethu Cymru Gwynedd.

Meddai: “Mae wedi bod yn brofiad hyfryd rhoi'r cariad, y diogelwch a’r gefnogaeth y mae’r plant yn  haeddu. Mae gwybod eich bod wedi eu helpu i dyfu i bwy maen nhw fod yn rhywbeth arbennig iawn.

“Mae pobl yn gofyn yn aml sut mae'n teimlo pan fo'r plant yn gadael. A bod yn onest, mae bob amser yn chwerwfelys. Rydym yn dod mor agos atyn nhw - maen nhw'n teimlo fel rhan o'r teulu - felly mae'n anodd ffarwelio â nhw.

“Ond ar yr un pryd, mae'n braf iawn gwybod eu bod yn symud ymlaen i gael dechrau o'r newydd, fel y maent yn ei haeddu. Mae eu gweld nhw'n hapus, wedi setlo ac yn gwneud yn dda yn gwneud y cwbl yn werth chweil. A phan rydym yn cadw mewn cysylltiad ac yn gweld eu cynnydd, mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd maethu.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Ngwynedd, ewch i: maethucymru.gwynedd.llyw.cymru