Ffermwr wedi'i ddiarddel ar ol i anifeiliaid ddioddef yn ddiangen

Dyddiad: 03/10/2025

Mae ffermwr o Wynedd a gafwyd yn euog o achosi i ddefaid a chŵn ddioddef yn ddiangen wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid a'i orchymyn i dalu dirwy o £1000.

Plediodd Robert Emlyn Hughes o Flaen y Garth, Nantlle yn euog yn llys ynadon Caernarfon ar 13 Awst 2025 i droseddau o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid a heddiw (3 Hydref 2025) cafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid (ac eithrio un ci) am ddeg mlynedd yn Llys y Goron Caernarfon. Derbyniodd ddirwy o £1000 a bydd disgwyl iddo hefyd dalu costau o £980.

Clywodd y Llys bod y diffynnydd yn gyfrifol am braidd o rhai cannoedd o ddefaid a nifer o gŵn ar ei fferm ger Nantlle, Penygroes ond nad oedd wedi bod yn gofalu am yr anifeiliaid yn iawn.

Roedd y troseddau'n cynnwys achosi i anifeiliaid ddioddef yn ddiangen a methu â chymryd camau priodol a rhesymol i amddiffyn y praidd rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr fod Mr Hughes wedi methu â chydweithio â'r awdurdodau perthnasol ac fe ddiolchodd i Gyngor Gwynedd am eu gwaith a'u hymchwiliad hir yn dilyn nifer o gwynion ynghylch cyflwr a thriniaeth yr anifeiliaid yn Blaen y Garth..

Cafodd ymchwiliad gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ei sbarduno yn dilyn cwynion gan aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â chyflwr a thriniaeth defaid a chŵn a oedd yn cael eu cadw ym Mlaen y Garth.

Ymwelodd swyddogion y Cyngor â'r fferm sawl gwaith yn ystod mis Medi 2024 a chymaint oedd y pryder am iechyd a lles y defaid a'r cŵn, bu'n rhaid i arolygwyr iechyd anifeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), ymyrryd.

Gwelwyd bod defaid ar y fferm yn dioddef o gyflyrau fel pydredd traed, clefyd pryfed, parasitiaid mewnol ac allanol. Roedd sawl achos lle cafodd defaid eu ewthaneiddio ar sail lles ar gyngor swyddogion milfeddygol oherwydd eu bod yn dioddef gymaint.

Clywodd y Llys mai barn gyffredinol y Swyddog Milfeddygol oedd bod y defaid a'r cŵn wedi dioddef o ystyried nifer y da byw a oedd wedi marw, cyflwr eu cyrff a'r ffaith nad oedd gofal digonol wedi'i ddarparu.

Clywodd y Llys hefyd mai prin oedd cydweithrediad y diffynnydd drwy gydol yr ymchwiliad. Er gwaethaf derbyn cyngor gan swyddogion Cyngor Gwynedd a swyddogion milfeddygol APHA, arweiniodd diffyg ymgysylltiad y diffynnydd yn uniongyrchol at ddioddefaint hirach a gwaeth i'r anifeiliaid.

Oherwydd methiant parhaus y diffynnydd i ddiogelu lles yr anifeiliaid, gweithredodd Cyngor Gwynedd bwerau i gymryd yr anifeiliaid i'w meddiant a threfnwyd triniaeth frys iddynt ar gost gyhoeddus.

Hefyd, daeth swyddogion o hyd i nifer o garcasau defaid a oedd yn dadelfennu a oedd wedi'u gadael heb eu casglu ac yr oedd anifeiliaid a bywyd gwyllt eraill ar y fferm yn medru mynd atynt.

Yn ogystal â chael ei ddiarddel rhag cadw anifeiliaid, rhoddwyd dirwy o £1000 a gorchymyn i dalu costau o £980.

Fel amddiffyniad, nododd y Cwnsler fod y diffynnydd wedi pledio'n euog, ei fod wedi dangos edifeirwch a'i fod wedi'i effeithio yn sgil colli ei rieni.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

"Mae gan unrhyw un sy'n cadw da byw gyfrifoldeb clir i sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu cadw mewn amodau digonol a'u bod yn derbyn y gofal angenrheidiol.

"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n cadw anifeiliaid amaethyddol yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif ac yn gofalu am eu hanifeiliaid.

"Fodd bynnag, lle mae tystiolaeth o ddioddefaint diangen, mae gan ein swyddogion gyfrifoldeb i ymchwilio a chymryd camau gorfodi ffurfiol os oes angen."

Ychwanegodd Claire Thomas, Pennaeth Cyflenwi Maes Cymru, APHA:

"Mae'r achos hwn yn adlewyrchu effeithiolrwydd ein hymdrechion gorfodi a'r cydweithrediad cryf rhwng APHA ac awdurdodau lleol. Rydym yn croesawu'r canlyniad sy'n anfon neges glir na fydd troseddau o'r fath yn cael eu goddef.

"Mae pob gweithrediad da byw, waeth beth fo'u maint, yn gyfreithiol rhwym i gynnal safonau uchel o les anifeiliaid."

I gael cyngor mewn perthynas ag iechyd a lles neu ar gadw anifeiliaid fferm neu i roi gwybod am broblem lles anifeiliaid, gall trigolion Gwynedd ffonio llinell iechyd anifeiliaid Safonau Masnach ar 01766 771000, neu e-bostio safmas@gwynedd.llyw.cymru