Dweud eich dweud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ardal Bangor

Dyddiad: 21/10/2025

Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) sy’n weithredol yng nghanol dinas Bangor am gyfnod o dair blynedd arall.

Golygai’r gorchymyn, sy’n cael ei weinyddu gan Wasanaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Gwynedd a sydd wedi bod yn weithredol ers 2019, fod gan yr Heddlu bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â materion neu niwsans benodol, gyda'r nod o wella bywydau trigolion ac ymwelwyr yr ardal.

Mae cyfle nawr i’r gymuned leol ddarllen manylion y gorchymyn a dweud eu dweud ar y bwriad o ymestyn y Gorchymyn presennol am dair mlynedd arall. Yn ychwanegol i hyn, bydd Cyngor Gwynedd yn holi barn cynghorwyr sir a chynghorwyr dinas lleol ar y mater.

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad os am ymestyn y Gorchymyn neu beidio.

Bwriad y GDMC yw targedu:

  • Ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod.
  • Ymdroi mewn cyflwr meddwol o ganlyniad i weithgaredd a ysgogwyd gan alcohol neu gyffuriau.
  • Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed.
  • Loetran neu berfformio o fewn 10 metr o beiriant codi arian.

Mae arwyddion mewn ardaloedd allweddol o Fangor yn hysbysu trigolion ac ymwelwyr o'r cyfyngiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: “Dwi’n pwysleisio fod Bangor yn parhau i fod yn ddinas ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld a hi, a dim ond lleiafrif bychan o bobl sy’n gwneud sefyllfa annymunol i bobl a busnesau lleol.

“Fel Cyngor, rydym yn gweithio'n agos gyda’n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a'r gymuned ehangach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’r GDMC wedi bod yn arf allweddol i’n helpu i wneud hynny.

“Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl Bangor erioed wedi bod yn rhan o unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac nid yw’n fwriad gennym stopio pobl rhag cymdeithasu a chael mynediad at a mwynhau mannau cyhoeddus.

“Yn hytrach, pwrpas y gorchymyn yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diogel, agored a bywiog y gall pawb eu mwynhau a theimlo'n ddiogel ynddynt.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi ymestyn y GDMC ym Mangor i sicrhau y gallwn barhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion parhaus ar y Stryd Fawr.

“Ers cyflwyno'r GDMC yn 2019, bu gostyngiad sylweddol mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd.

“Fodd bynnag, roedd adborth gan drigolion a busnesau i arolwg cymunedol diweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i fod yn bryder.

“Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn yr ardal i adeiladu gwytnwch i droseddau cyfundrefnol difrifol a lleihau troseddu ar y Stryd Fawr. Mae'r gorchymyn yn parhau i fod yn arf hanfodol i barhau â'r gwaith hwn er budd trigolion a busnesau.”

Mae modd i bobl leol weld y gorchymyn cyfredol a map sy’n dangos yr ardaloedd perthnasol ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud

I roi sylwadau ar y cynnig i ymestyn y Gorchymyn hyd nes 2028, gellir e-bostio DiogelwchCymunedol@gwynedd.llyw.cymru, ffonio 01766 771 000 neu ysgrifennu i Ymgynghoriad Diogelwch Cymunedol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Llun, 3 Tachwedd.