Dathlu buddsoddiad yn Yr Aelwyd - Canolfan Gymunedol ac Ieuenctid Blaenau Ffestiniog
Dyddiad: 14/10/2025
Cynhaliwyd seremoni arbennig ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar i ddathlu cwblhau prosiect a gefnogwyd gan Gyngor Gwynedd, lle bu Antur Stiniog yn arwain cynllun uwchraddio sylweddol. Mae adeilad Yr Aelwyd bellach wedi’i thrawsnewid yn ganolfan gymunedol ac ieuenctid fodern ar gyfer y dref.
Mae Yr Aelwyd (a elwid gynt yn Aelwyd yr Urdd) wedi bod yn ganolbwynt i weithgareddau cymdeithasol ers degawdau, gan gynnal dawnsfeydd, cyngherddau, Clwb Ieuenctid a boreau coffi. Fodd bynnag, oherwydd dirywiad sylweddol yng nghyflwr yr adeilad, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’w ddefnyddio.
Fel rhan o weledigaeth Antur Stiniog i adfywio canol y dref, manteisiwyd ar gyfle i fuddsoddi yn Yr Aelwyd fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi - rhaglen fuddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Llywodraeth y DU ac a arweinir gan Gyngor Gwynedd, gan sicrhau ei ddyfodol fel adnodd cymunedol gwerthfawr.
Dywedodd Hefin Hamer, Cadeirydd Antur Stiniog:
“Mae gwaith eiddo Antur yn cynnig cyfle i ni adnewyddu asedau sy'n hanfodol i'n cymuned ni, gan fod yn adnodd pwysig ar gyfer ein dyfodol. Mae hyn yn creu gofodau lle gall pobl ifanc Ffestiniog, ynghyd â rhwydwaith o fentrau cymunedol a chymdeithasau, wneud defnydd o'r Aelwyd.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld mudiadau'n dychwelyd ac yn cynnig cyfleon yma yn nghalon y dref. Fel Cadeirydd Antur Stiniog, hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd, trwy’r prosiect Llewyrch o’r Llechi am y cyfle i greu hwb arloesol ynni effeithlon sy'n dathlu ein treftadaeth a rhoi lle i ddyfodol ffyniannus.”
Mae’r cynllun yn rhan o gyfres o welliannau yn deillio o ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n defnyddio’r statws byd-eang hwn i ysgogi datblygiad economaidd a chymdeithasol.
Ymhlith y buddsoddiadau pellach yn yr ardal gwelwyd:
- Creu ardal aml-chwaraeon newydd yn ardal Y Parc – adnodd rhad ac am ddim ar gyfer y gymuned gyfan.
- Gosod murlun llechi trawiadol yng nghanol y dref yn darlunio elfennau hanesyddol megis y llwybr zig-zag, tomeni llechi, Melin Maenofferen a’r car gwyllt, wedi ei gwblhau gan gwmni lleol Original Roofing Company,
- Adeiladu llwybr teithio llesol newydd rhwng y dref a Chwarel Llechwedd, gan wella diogelwch i gerddwyr a beicwyr ar hyd yr A470.
Mae cynlluniau pellach ar y gweill yn y dref, gan gynnwys ail-ddatblygu Siop Ephraim a Chaffi Bolton yn asedau cymunedol, ynghyd â gwelliannau i isadeiledd y dref - megis arwyddion, biniau a meinciau newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae’n bleser gennym fedru cefnogi ymdrechion adfywio fel hyn yn y dyffrynnoedd llechi, trwy alluogi cymunedau i ymfalchïo yn eu treftadaeth tra hefyd yn gwneud gwahaniaeth gweledol positif i ganol trefi.
“Mae buddsoddiadau o’r fath yn cyfrannu at dwf cymunedau bywiog lle gall pobl ifanc fwynhau, datblygu a ffynnu. Maent yn rhan allweddol o’n diwylliant i’r dyfodol.”
Am ragor o wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ewch i: www.llechi.cymru