Arddangosfa newydd Yr hen ddweud o'r newydd yw yn cyrraedd Storiel, Bangor

Dyddiad: 03/10/2025

Bydd arddangosfa gelf newydd yn agor yn Storiel, Bangor yr Hydref hwn gan yr artist Iwan Bala. Mae’r arddangosfa  “Yr hen ddweud o’r newydd yw / The old telling made new” yn cyflwyno oddeutu trideg o weithiau celf newydd wedi’u creu ar sail darnau hŷn a fu’n gorwedd yn y stiwdio dros y blynyddoedd. Mae’r gweithiau hyn yn ffurfio palimpsestau – lle mae’r hen waith yn dod yn haen sylfaenol i’r newydd, gan gyfoethogi’r naratif gweledol ac emosiynol.

Ymhlith y gweithiau, mae’r darn nodedig “Dameg. Post-colonialism is a Chimera” (2025), sy’n adlewyrchu sylweddoliad artistig dwfn, tra bod eraill yn ymateb i’r hinsawdd wleidyddol yn yr UDA, Prydain, Wcrain a Phalesteina. Er bod y byd ehangach yn bresennol yn y gwaith, mae Iwan hefyd yn troi’r golau tuag at Gymru, gan archwilio ei brofiadau a’i safbwynt drwy ‘nodiadau maes’ gweledol.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau wedi’u creu ar bapur Khadi – papur clwtyn cotwm cynaliadwy o India, sy’n dwyn ysbryd dad-wladychu ac yn gysylltiedig â Gandhi a Nehru. Mae’r dewis deunydd yn adlewyrchu ymrwymiad yr artist i foeseg, hanes a chyd-destun.

Mae’r arddangosfa’n cynnig cipolwg ar gysondeb a pharhad artistig Iwan o’r 1990au hyd heddiw – gan ddangos sut mae’r ‘ddawn dweud’ yn parhau i esblygu, tra’n dal ei hanfod.

Meddai Iwan am ei waith:

“Mae fy ngwaith celf wastad wedi bod am syniadau a'r hyn y mae Raymond Williams wedi’i alw yn 'strwythurau o deimladau'. Mae'r meddwl yn tanio o ddarllen, o edrych ar gelf, a thro arall o brofiadau byw. Dwi'n tueddu i feddwl bod y gwaith celf a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r 'gwaith ymchwil' hwn fel 'Nodiadau Maes' yn ymgais i wneud nodyn o deimladau, meddyliau, a syniadau ac i'w trawsnewid yn rhywbeth gweledol a choncrid. Maent yn dal i fod yn 'ffrwyth' y broses greadigol ddychmygol fodd bynnag, ynghyd â bod yn brosesau haenog, annisgwyl a materol ddwys o wneud marciau.”

Yn ogystal, bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith ar fenthyg o gasgliadau cyhoeddus megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, sydd fel arfer ddim ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Mae hyn wedi’i wneud yn bosib trwy brosiect CELF, menter sy’n ceisio dod â chasgliadau cenedlaethol yn nes at gynulleidfaoedd ehangach ar draws Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae Storiel yn ased diwylliannol pwysig ym Mangor, sy’n cynnig cyfle i drigolion Gwynedd archwilio eu hanes a’u treftadaeth drwy gasgliadau ac arddangosfeydd.

“Yn ogystal â’r arddangosfeydd parhaol, mae’r lleoliad yn falch o groesawu amrywiaeth o arddangosfeydd dros dro drwy gydol y flwyddyn.  Maent yn croesawu creadigrwydd o bob math, gan annog cyfranogiad gan artistiaid newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Mae croeso cynnes hefyd i'r rhai sydd wedi sefydlu ers tro neu sy'n adnabyddus yn eu maes; gan werthfawrogi eu cyfraniad unigryw i'r gymuned gelfyddydol.”

Bydd yr arddangosfa yn agor am 12.00 o’r gloch dydd ar Ddydd Sadwrn 4 Hydref, 2025. Mae croeso i bawb i’r agoriad.

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 24 Rhagfyr, 2025.

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Storiel: www.storiel.cymru