Ailddatblygu ardal Harbwr Pwllheli – cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud

Dyddiad: 10/10/2023
Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i uwchraddio ardal Glandon a Harbwr Pwllheli, ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gael mewnbwn y cyhoedd.

 

Os ydych yn byw yn yr ardal neu gyda chysylltiad arall â’r rhan hon o Bwllheli, mae cyfle i ddysgu mwy a dweud eich dweud am y cynlluniau ar gyfer ardaloedd Glandon, Cei’r Gogledd, Yr Hen Ynys a’r Harbwr Mewnol ac Allanol.

 

Cynhelir digwyddiad ‘galw heibio’ cyhoeddus fydd yn gyfle i  weld y cynigion a chael sgwrs â’r ymgynghorwyr Blue Sea Consulting a swyddogion o Gyngor Gwynedd. Bydd yn gyfle i’r cyhoedd ddweud eu dweud ac i ddylanwadau ar y broses.

 

  • Lleoliad: Canolfan Hwylio Plas Heli, Pwllheli
  • Dyddiad: Dydd Iau, 12 Hydref
  • Amser: 6:30-8:30yh

 

Os nad ydych yn gallu mynychu’r cyfarfod, mae modd lleisio eich barn drwy arolwg barn ar-lein ar gael ar ôl 12 Hydref am gyfnod o bythefnos. Cadwch lygaid am fwy o fanylion a’r ddolen i’r holiadur ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

 

Yn dilyn y broses hon, bydd yr Ymgynghorwyr yn llunio adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor er mwyn datblygu gynllun strategol, hir-dymor er budd y gymuned lleol.