Ysgolion Gwynedd yn llwyddo yng ngwobrau'r Siarter Iaith

Dyddiad: 18/07/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn falch o longyfarch naw ysgol leol sydd wedi ennill Gwobr y Siarter Iaith eleni gan arddangos eu hymrwymiad i hybu'r iaith Gymraeg a chynyddu ei ddefnydd cymdeithasol yng Nghymru beth bynnag eu cefndir ieithyddol.

Fe ddatblygwyd y Siarter Iaith yn wreiddiol gan Gyngor Gwynedd yn 2013, gyda'r nod o annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn yr ysgol ac yn y gymuned. Bellach, mae’r fframwaith wedi’i mabwysiadu’n genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu ar draws y wlad yn unol â nodau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA).

Nod y Siarter yw:

  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg fel iaith gymdeithasol.
  • Ysbrydoli disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, nid dim ond yn ystod gwersi ond hefyd yn y coridorau, ar y buarth, ac adref.
  • Datblygu ethos ysgol gyfan ble mae’r Gymraeg yn iaith fyw, gan gynnwys staff, rhieni a’r gymuned ehangach.

 

Mae’r Siarter yn gweithredu drwy system wobrwyo tri cham (Efydd, Arian ac Aur), sy’n asesu cynnydd ac ymroddiad ysgolion i hybu’r iaith yn strategol ac ymarferol. Mae’r wobr aur yn adlewyrchu gwaith rhagorol wrth greu amgylchedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol gan ddisgyblion a staff, tra bod y lefel arian ac efydd yn cydnabod ymdrechion parhaol i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.

Dyma’r ysgolion cynradd llwyddiannus:

Gwobr Aur

  • Ysgol Abererch
  • Ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda
  • Ysgol Rhosgadfan
  • Ysgol Pentreuchaf

 

Gwobr Arian

  • Ysgol Treferthyr
  • Ysgol Eifion Wyn

 

Gwobr Efydd

  • Ysgol Talsarnau
  • Ysgol yr Hendre

 

Derbyniodd Ysgol Uwchradd Eifionydd y Wobr Arian - yr ysgol uwchradd gyntaf yn y sir i gael ei dilysu o dan y fframwaith newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2024.

Meddai Catrin Roberts, Cydlynydd Siarter Iaith Ysgol Eifionydd:

“Mae Ysgol Eifionydd yn falch o fod yr ysgol uwchradd gyntaf yng Ngwynedd i dderbyn y wobr arian. Gobeithio fod hyn yn brawf o sefyllfa gref y Gymraeg yn nalgylch Porthmadog. Ymlaen am yr aur!”

Ychwanegodd Annwen Hughes, Pennaeth Ysgol Abererch:

“Mae pawb yn Ysgol Abererch yn hynod o falch o fod wedi llwyddo i dderbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith am y gwaith sydd yn cael ei wneud acw i hyrwyddo’r Gymraeg. “Cyfle i bawb lwyddo” ydi arwyddair yr ysgol ac mae sicrhau fod pob disgybl yn gallu cael mynediad llawn i holl ddiwylliant Cymru drwy siarad yr iaith bob dydd  yn rhan greiddiol o hyn. 

“Mae grŵp o ddisgyblion, Y Dreigiau Bach yn llunio blaenoriaeth Siarter Iaith eu hunain ers sawl blwyddyn bellach ac mae hyn yn gwneud iddyn nhw weld gwerth a phwrpas yn y gwaith a chael cyfle i feddwl am ffyrdd effeithiol o hyrwyddo’r iaith. Maent yn monitro y gweithredu ac yn adrodd i lywodraethwyr ar eu cynnydd a’u llwyddiannau.

“Mae’r gweithgareddau fel grwpiau Dreigiau amser chwarae, stori cyn cysgu a prosiectau hwiangerddi wedi bod yn brosiectau gwerth chweil sydd wedi bod yn effeithiol. Mae holl gymuned yr ysgol yn gwybod beth yw y nod a’u rôl nhw i’w gyflawni!”

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae ‘Gwynedd Gymraeg’ yn un o flaenoriaethau’r Cyngor, ac rydym yn ymdrechu i hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o’r sir.  Rydym am sicrhau bod pob plentyn yng Ngwynedd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol.

“Hoffwn longyfarch pob ysgol ar eu llwyddiant.  Dyma adlewyrchiad o ymroddiad parhaus ysgolion Gwynedd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn parhau’n ganolog i fywyd disgyblion. Mae’r Siarter Iaith yn llawer mwy na phrosiect i’r ysgolion unigol — mae’n gam pwysig tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd bob dydd ein plant. ”

Am ragor o wybodaeth am y Siarter Iaith ewch i: hwb.gov.wales/siarter