Ymestyn darpariaeth Dechrau'n Deg yng Ngwynedd

Dyddiad: 29/07/2025

Mewn cyfarfod diweddar mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynlluniau i ymestyn  gofal plant am ddim i blant dwy oed i ragor o ardaloedd o fewn y sir, ac i ehangu darpariaeth Dechrau’n Deg ym Mhenygroes.

Mae’r cynlluniau hyn yn golygu bydd hyd at oddeutu 200 o blant ychwanegol oedran cyn ysgol mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwynedd yn cael budd o ofal plant am ddim. 

Ar hyn o bryd mae’r rhaglen Dechrau’n Deg wedi ei sefydlu mewn saith cymuned yng Ngwynedd, ac yn cefnogi teuluoedd gyda phlant 0-4 oed drwy gynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys, cefnogaeth teulu, cymorth iaith a lleferydd, a 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed.  Mae’r penderfyniad yn golygu bydd mwy o deuluoedd o fewn cymuned Penygroes yn derbyn y gwasanaethau hyn.

Yn ogystal, bydd un ar ddeg cymuned o fewn y sir yn derbyn budd o ofal plant am ddim i blant dwy oed.

Dyma’r cymunedau / wardiau fydd yn gweld budd o’r cynllun:

  • Tywyn
  • Harlech
  • Llandderfel a Llanuwchllyn
  • Penrhyndeudraeth
  • Efailnewydd / Buan
  • Aberdaron/Botwnnog/ Tudweiliog
  • Cricieth
  • Waunfawr
  • Llanberis
  • Arllechwedd
  • Porthmadog Gorllewinol

 

Fel rhan o ehangu’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg yn Mhenygroes mae adeilad modwlar newydd wedi ei ddatblygu ar safle Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes. Mae’r cyfleuster gofal plant newydd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio cyllid rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru – rhaglen gyfalaf sy’n cefnogi prosiectau gofal plant newydd a chynnal a gwella’r seilwaith gofal plant a Dechrau’n Deg presennol.

Cafodd y Cynghorydd Menna Trenholme Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Lleol Penygroes gyfle i ymweld â’r cyfleusterau newydd yn Ysgol Bro Lleu yn ddiweddar. 

Meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme:

“Roedd hi’n braf cael y cyfle i ymweld â’r safle, sgwrsio gyda’r plant a gwerthfawrogi’r adnoddau a’r cyfleusterau newydd sydd bellach ar gael yn Plant y Nant, Ysgol Bro Lleu.

“Rydw i’n hynod falch fod y Cabinet wedi cefnogi’r bwriad i ehangu’r cynllun – mae’n newyddion da i blant a theuluoedd Penygroes, ond hefyd i rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y sir.” 

Meddai Rheolwyr y ddarpariaeth gofal plant - Plant y Nant:

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y buddsoddiad ym Mhenygroes, sy'n rhoi cyfle unigryw i ni ehangu ein gwasanaethau a rhoi mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd yn ein cymuned.

“Mae'r gefnogaeth hon nid yn unig yn cryfhau ein hymrwymiad ond hefyd yn gwella ein gallu i wneud effaith ystyrlon ym mywydau'r teuluoedd yn Nyffryn Nantlle.

“Rydym yn edrych ymlaen i greu atgofion newydd, meithrin twf, a meithrin potensial pob plentyn mewn amgylchedd bywiog a chroesawgar.”

Wrth dderbyn y cynnig gan Lywodraeth Cymru (Grant Plant a Chymunedau ar gyfer Dechrau’n Deg) bydd dros i £4 miliwn ar gael yn flynyddol am y tair blynedd nesaf.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae cael mynediad at ofal plant da yn lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad plentyn. Nid hwn yw’r tro cyntaf i Gabinet y Cyngor gymeradwyo cefnogi cynlluniau Dechrau’n Deg, a dros y blynyddoedd rydym wedi gweld gofodau pwrpasol yn cael eu datblygu er mwyn helpu teuluoedd gyda gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yn Neiniolen, Tywyn a Phenygroes.

“Mae cynlluniau fel hyn yn rhoi y cychwyn gorau i blant ac hefyd yn mynd i’r afael ag amddifadedd ac yn cynyddu darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sir.  Rwy’n edrych ymlaen at weld rhagor o blant a theuluoedd Gwynedd yn elwa o’r cynllun, a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar eu dyfodol.”

Mae cynllun Dechrau’n Deg yn cael ei redeg yn lleol yng Ngwynedd gan Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd y Cyngor.

Am ragor o wybodaeth am y gofal plant o fewn y cynllun Dechrau’n Deg yng Ngwynedd ac i wirio os ydych yn gymwys ewch i’r wefan: Help i dalu am ofal plant