Mwynhau Gwynedd yn ddiogel yr Haf hwn

Dyddiad: 24/07/2025

Mae Cyngor Gwynedd am atgoffa ymwelwyr a thrigolion i gynllunio eu hymweliad ac unrhyw weithgareddau o flaen llaw yr Haf hwn.

Bydd y Cyngor unwaith eto eleni yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid - gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri - i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol wrth iddynt fwynhau amgylchedd naturiol, golygfeydd bendigedig ac atyniadau gwych Gwynedd.

Y negeseuon i’r rhai sy’n ymweld ydi:

  • Cynllunio o flaen llaw – gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich ymweliad a gweithgareddau o flaen llaw er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill;
  • Parciwch yn gyfrifol - gwiriwch ble mae’r meysydd parcio pwrpasol ac unrhyw drefniadau sydd angen eu gwneud. Mae gwybodaeth am feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/parcio Os ydych yn parcio ar hyd yr arfordir, gwiriwch amseroedd y llanw cyn gadael eich car. Os yw maes parcio yn llawn, ystyriwch ymweld â lleoliad arall. Cofiwch mai nifer o feysydd parcio'r Cyngor yn cynnig dull talu trwy ap 'Paybyphone'.
  • Cartrefi modur – mae gan y Cyngor safleoedd Arosfan penodol ar gyfer parcio cartrefi modur dros-nos. Mwy o fanylion ar y wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/arosfan
  • Trafnidiaeth gyhoeddus – os yw’n bosib, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn torri lawr ar dagfeydd a phroblemau parcio mewn ardaloedd poblogaidd, ac er budd yr amgylchedd. Mae amserlenni bws Gwynedd, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
  • Parchwch ein cymunedau - byddwch yn ystyrlon o’r amgylchedd, dilynwch unrhyw reoliadau neu arwyddion rhybudd lleol a chofiwch barchu ein staff sydd yma i’ch helpu, rhoi cyngor a darparu gwybodaeth. Gwaredwch sbwriel yn gyfrifol trwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu fynd ag ef adref. Dylai perchnogion cŵn bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifail anwes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Bob blwyddyn mae nifer fawr o bobl yn ymweld â mannau poblogaidd yma yng Ngwynedd.

“Rydym yn falch o gael croesawu pobl o bell ac agos i fwynhau’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig, ond rydym hefyd yn annog pobl i fod yn barchus a chynllunio’u hymweliadau o flaen llaw; o ddefnyddio’r meysydd parcio priodol i ddefnyddio gwasanaethau bws i grwydro’r ardal. Gofynnwn i fodurwyr barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel.

“Cofiwch fod gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa a’r trefi a’r pentrefi cyfagos, ac mae’r bysus yn rhedeg yn amlach dros gyfnod yr Haf.”

Mae manylion am yr holl wasanaethau bws cyhoeddus yng Ngwynedd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cludiant ac os ydych yn ansicr o leoliadau meysydd parcio, mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar gael yn www.gwynedd.llyw.cymru/parcio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

"Mae arfordir Gwynedd yn wirioneddol hyfryd, ond mae'n bwysig bod pawb sy'n ymweld yn ymwybodol o beryglon yr arfordir ac yn trin yr amgylchedd naturiol gyda pharch. Gwiriwch y tywydd a’r llanw cyn mentro a rhowch wybod i rywun ble rydych yn mynd.

Cofiwch hefyd i gefnogi ein busnesau lleol sy’n rhan hanfodol o’n cymunedau ar eich ymweliad â Gwynedd.”

Mae rhagor o wybodaeth am ymweld ag arfordir Gwynedd yn ddiogel ar gael yma: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad  a Pharc Cenedlaethol Eryri: www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/