Gwelliannau teithio llesol yn cael croeso yng Nghricieth

Dyddiad: 18/07/2025

Mae disgyblion Ysgol Treferthyr yn elwa o gynllun trafnidiaeth Cyngor Gwynedd sydd wedi gwella opsiynau teithio llesol yn yr ardal yma o Gricieth.

Fel rhan o’r gwelliannau diweddar, mae datblygu ac uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar y ffordd i Ysgol Treferthyr gan osod lloches beics i’r disgyblion a chyflwynwyd croesfan newydd i wella diogelwch.

Mae’r datblygiadau yma yn cefnogi teuluoedd i deithio i’r ysgol ar droed neu feic, ac mae ymestyn llwybr cerdded a beicio heibio’r ganolfan iechyd yn y dref wedi bod o fudd i’r gymuned ehangach, ac wedi gwella darpariaeth i drigolion allu teithio i gyfeiriad yr orsaf drenau.

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydan ni’n falch o allu gwireddu’r gwelliannau teithio llesol yma ar gyfer disgyblion Ysgol Treferthyr a’r gymuned ehangach yng Nghricieth sy’n elwa ohonynt.

“I gyd-fynd efo’r ysgol newydd sbon anhygoel, roedd yn bwysig ein bod yn meddwl y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i sicrhau fod y plant yn gallu cyrraedd yr ysgol yn saff ac mewn modd cyfeillgar i’r amgylchedd.

“Diolch i’r gwelliannau diweddar, mae hi’n llawer haws i blant a theuluoedd i gyrraedd Ysgol Treferthyr ar droed, ar feic neu ar sgwter, gan dorri lawr ar draffig di-angen ac allyriadau carbon. Mae’n braf gweld fod y datblygiadau yn cael eu gwerthfawrogi gan yr ysgol a bod mwy o’r disgyblion yn dewis gwneud y mwyaf o’r llwybrau teithio llesol newydd yng Nghricieth.”

Fel rhan o’r cynllun, mae Cyngor Gwynedd wedi culhau’r ffordd presennol tu allan i’r ysgol a chyflwyno man croesi pwrpasol gyda goleuadau traffig. Cyflwynwyd gwelliannau i’r llwybr cerdded a beicio ar ochr yr A497, ymestyn y llwybr cerdded a beicio presennol heibio’r Ganolfan Iechyd ac i gyfeiriad yr orsaf drên a gwella cyfleusterau i gerddwyr Lôn Fel Isaf, drwy cyflwyno lwybr troed ger y Ganolfan tennis.

Mae llochesi beiciau newydd wedi eu gosod yn yr ysgol hefyd, ac mae’r disgyblion eisoes yn gwneud defnydd ohonynt gyda nifer yn teithio ar feic neu sgwter i’r ysgol.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Treferthyr Dylan Roberts:

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gwaith sydd wedi digwydd ar y llwybrau yn arwain i Ysgol Treferthyr. Yn sicr fe fyddant o gymorth mawr i ni fel ysgol am y blynyddoedd sydd i ddod.

“Mae’r lloches beiciau a sgwteri hefyd wedi ei groesawu yn fawr ac mae nifer o’r disgyblion yn gwneud defnydd o'r lloches a'r mannau pwrpasol ar gyfer cadw beiciau a sgwteri'.'

Ychwanegodd y Cynghorydd Sian Williams, sy’n cynrychioli Cricieth ar Gyngor Gwynedd:

“Mae’r ail-wynebu, palmentydd a’r gwelliannau yng Nghricieth i’w groesawu yn fawr.

“Mae’r prosiect yma yn werth ei weld ac mae’r lôn ei hun a newidiadau i’r palmentydd, gan gynnwys y gwelliannau wrth ymyl y ganolfan iechyd wedi bod yn llwyddiannus dros ben, a llawer un yn canmol y newid.”

Mae’r gwelliannau yma yng Nghricieth wedi eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd, ac wedi ei ariannu trwy Gronfeydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chyda cefnogaeth Trafnidiaeth Cymru.