Gwaith adfer hanesyddol wedi ei gwblhau ym Mharc Padarn
Dyddiad: 11/07/2025
Mae gwaith pwysig i adfer darn o dreftadaeth ym Mharc Padarn, Llanberis bellach wedi ei gwblhau. Mae’r prosiect arbenigol ar inclên A a’r cwt weindio wedi bod yn mynd ymlaen dros y misoedd diwethaf er mwyn diogelu’r strwythur hanesyddol sydd yn rhan nodweddiadol o dirwedd llechi’r ardal.
Dyma’r cam cyntaf yng nghynllun uchelgeisiol Cyngor Gwynedd i wella hygyrchedd, dealltwriaeth ac apêl y parc i bawb sydd yn ymweld, ochr yn ochr â’r gwaith sydd yn mynd ymlaen i ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi fel Porth canolog i Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Ymhlith y gwaith a gwblhawyd mae:
- Clirio llystyfiant,
- Gwaith cadwraeth i strwythur yr inclên,
- Adeiladu a chadw waliau,
- Gwaith cadwraeth i’r Cwt Weindio yn cynnwys ail-doi a diogelu’r strwythurau,
- Adfer y peirianwaith,
- Diogelu ac ailosod y slabiau canterlefer.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae gweld cynlluniau fel hyn ym Mharc Padarn yn dwyn ffrwyth yn galonogol dros ben, yn enwedig o ystyried y weledigaeth ehangach ar gyfer y safle.
“Roedd yr inclên mewn cyflwr gwael, ac wedi gwaethygu yn sylweddol ers 2020, felly roedd buddsoddiad i’w adfer yn hanfodol er mwyn osgoi'r peryg o’i golli yn gyfan gwbl. Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod Parc Padarn yn parhau yn adnodd gwerthfawr, cyfoes a deniadol i bobl leol ac i ymwelwyr am flynyddoedd lawer i ddod”.
Yn hanesyddol, roedd yr inclên yn cludo deunyddiau o Ffiar Injian (Mills) yn Chwarel Dinorwig i lawr at Rheilffordd Padarn, ac yn rhan bwysig o stori llechi'r ardal sydd wedi ei gydnabod fel tirwedd o bwysigrwydd byd-eang trwy dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2021.
Eglurodd Rob Chambers, pensaer cadwraethol a gomisiynwyd i ymgymryd â’r gwaith:
“Mae rhaid taro cydbwysedd gofalus rhwng adfer nodweddion a chadwraeth er mwyn sicrhau nad yw'r manylion gwreiddiol yn cael eu colli. Mae elfennau o'r inclên a'r strwythurau wedi'u cadw yn eu cyflwr adfeiliedig, ond wedi'u sefydlogi, mewn cyferbyniad mae toeau’r cytiau weindio wedi’u hadfer i amddiffyn y peiriannau sylweddol sydd ynddynt.
“Mae nodweddion megis y waliau cynnal, sy’n nodweddiadol o’r inclên, wedi'u hatgyweirio gan ddefnyddio deunydd o'r safle, wedi'u trin a'u gweithio yn y ffordd draddodiadol, gan gyfrannu at ddealltwriaeth o'r gwreiddiol a chynnal y sgiliau hyn ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd Yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru:
“Mae’n wych gweld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth, a strwythurau pwysig o fewn y dirwedd llechi yn cael eu gwarchod i alluogi cenedlaethau’r dyfodol ddeall a gwerthfawrogi ein treftadaeth gyfoethog”.
Mae gwelliannau pellach ar y gweill ym Mharc Padarn dros y misoedd nesaf gan gynnwys creu adeilad croeso newydd, ailfodelu'r maes parcio, a gwaith i adfer adeiladau hanesyddol Hafod Owen a Sied y ‘Fire Queen’.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae llawer o fuddsoddiad a gwaith yn mynd ymlaen ym Mharc Padarn ar hyn o bryd, ond mae’n bwysig cofio bod busnesau, atyniadau a llwybrau Parc Padarn yn parhau yn agored yn ystod y cyfnod y gwaith, yn ogystal â’r mynediad arferol at Llyn Padarn.
“Hoffwn hefyd atgoffa ymwelwyr lleol ac o bell i barchu tirwedd arbennig Gwynedd, gan gynnwys strwythurau hen a newydd, er mwyn diogelu’r dirwedd ddiwydiannol a naturiol unigryw i’r dyfodol.”
Am ragor o wybodaeth ewch i www.parcpadarn.cymru
Mae’r gwaith yma yn rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi; rhaglen buddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Llywodraeth y DU a’i arweinir gan Gyngor Gwynedd. Mae’n rhan o gyfres o welliannau yn deillio o ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.