Cynnal digwyddiad aml-asiantaeth arbennig i drafod egwyddorion perthnasau iach
Dyddiad: 11/07/2025
Mae Cyngor Gwynedd ac arbenigwyr o’r maes materion cymdeithasol wedi dod ynghyd mewn sgwrs gyhoeddus ddiweddar ym Mangor er mwyn trafod a hyrwyddo pwysigrwydd gwreiddio egwyddorion perthnasau iach ym mlynyddoedd ffurfiannol ein pobl ifanc.
Yn ôl un o’r trefnwyr, y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd, roedd llwyddiant rhyngwladol y ddrama deledu “Adolescence” yn sbardun i drefnu digwyddiad o’r fath.
Meddai’r Cynghorydd Dewi Jones:
“Deilliodd y digwyddiad hwn o sgwrs dros baned yn dilyn hyfforddiant gan Cymorth i Ferched Cymru ar drais yn erbyn menywod, a gafodd effaith ddofn ar swyddogion a chynghorwyr fel ei gilydd.
“Wrth i ni gysylltu profiadau plentyndod â phatrymau ymddygiad mewn perthnasoedd yn ddiweddarach mewn bywyd – a hynny gyda’r holl sôn am ddarllediad cyfres Netflix, “Adolescence” ar y pryd – penderfynwyd trefnu cyfle i bobl ddod at ei gilydd.
“Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddod â gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr, a rhanddeiliaid ynghyd i rannu profiadau, syniadau ac arferion gorau, gyda’r nod o sicrhau bod egwyddorion perthnasau cadarnhaol yn cael eu meithrin o oedran cynnar.”
Ymhlith y siaradwyr a’r cyfranwyr yn y sesiwn ‘Gyda’n Gilydd dros Berthnasau Iach a Ffyniannus’ oedd:
- Shannon Morris – Goroeswr ac ymgyrchydd, sydd wedi cynnal ymchwil diweddar ar ran Mabon ap Gwynfor AS.
- Nia Thomas – Cynrychiolydd o Gymorth i Ferched Cymru.
- Elin Sanderson – Cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CHAMS)
- Y Bont, Penygroes – Yn cyflwyno dau brosiect arloesol: Cwlwm Addysg a Caring Dads.
- Sheryl Minn- Sbectrwm
- Habiba Chowdhury- BAWSO
- Michael Conroy – Men at Work a Daron Owens, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd:
"Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i wasanaethau gydweithio, rhannu arferion gorau, ac ysgogi trafodaeth am ffyrdd o gryfhau cydweithio er mwyn diogelu pobl ifanc yn y sir.
“Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r materion a drafodwyd yn ystod y digwyddiad, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng gwasanaethau a mudiadau, a sicrhau cydweithrediad parhaus rhwng asiantaethau."