Cyngor Gwynedd yn penodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Newydd
Dyddiad: 28/07/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Catrin Thomas i ymuno â Thîm Rheoli yr awdurdod, fel Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd.
Mae'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn dirprwyo ar gyfer ac yn cefnogi'r Prif Weithredwr ac mae Catrin Thomas yn olynu Geraint Owen, sydd wedi ymddeol wedi 41 mlynedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd a’r hen Gyngor Sir Gwynedd gynt.
Magwyd Catrin yn Llanrug, ac ar ôl cyfnod i ffwrdd o Wynedd mae bellach wedi ymgartrefu yn ôl yn yno – i fagu teulu ac i fod y yn agos at anwyliaid a ffrindiau; ac i fwynhau harddwch naturiol a diwylliant unigryw Gwynedd.
Mae Catrin yn ymuno gyda’r Cyngor o gymdeithas dai Adra, ble mae’n Bennaeth ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Gweithiodd Catrin yn flaenorol mewn sawl adran yng Nghyngor Gwynedd dros gyfnod o 20 mlynedd.
Ar ei phenodiad, nododd: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r swydd hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda thimau ymroddedig y Cyngor ac amryw bartneriaid y Cyngor, i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i drigolion a chymunedau lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Llongyfarchiadau mawr i Catrin ar ei phenodiad. Ar ôl cael y cyfle i gydweithio’n agos â hi yn ystod ei chyfnod blaenorol gyda’r Cyngor, rydw i’n gwybod o brofiad pa mor frwdfrydig ac angerddol yw hi am ei gwaith. Mae bob amser yn bleser gweithio gyda Catrin, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y bennod nesaf i Gyngor Gwynedd. Bydd ei phrofiad diweddar o weithio i cymdeithas dai Adra hefyd yn dod a persbectif gwahanol i’r Cyngor.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i annog mwy o amrywiaeth yn rolau rheoli ac arwain o fewn y sefydliad, ac mae penodiad Catrin yn gam cadarnhaol wrth i ni geisio ysbrydoli mwy o ferched i ystyried gyrfa mewn arweinyddiaeth gyhoeddus.
“Diolch o galon i Geraint am y degawdau o wasanaeth gwerthfawr y mae wedi’u rhoi i lywodraeth leol. Dymunaf bob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad, gan obeithio y bydd yn cael y cyfle haeddiannol i fwynhau amser gyda’i deulu ac i hamddena.”
Meddai Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd: “Mae’n newyddion da iawn fod Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion y Cyngor wedi penodi Catrin Thomas i’r swydd Cyfarwyddwr yn dilyn ymddeoliad Geraint Owen.
“Mae Catrin yn gyfarwydd i nifer fawr ohonom yn barod yma yng Nghyngor Gwynedd, ac mae’n bob amser yn braf gweld cyn aelodau staff yn dychwelyd i’r awdurdod gyda phrofiadau gwerthfawr o sefydliadau eraill.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddymuno’n dda i Geraint Owen ar ei ymddeoliad a diolch iddo am 41 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i Gyngor Gwynedd, a Chyngor Sir Gwynedd gynt. Mae cyfraniad, ymrwymiad a phrofiad Geraint dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy.”