Cyngor Gwynedd yn parhau i arwain ar y Gymraeg yn y gweithle

Dyddiad: 15/07/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar Safonau Iaith yn y gweithle, sy’n dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i waith.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r camau cadarnhaol a gymerwyd yn ystod 2024–25 i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddiofyn drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys hyfforddiant i staff, datblygu adnoddau mewnol, a monitro cydymffurfiaeth.

Mae’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor ac mae mwy na 99% o staff yn gallu’r iaith.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae llawer o waith wedi ei wneud i gryfhau sgiliau a chodi hyder staff wrth ddefnyddio eu Cymraeg.  Mae’r Cyngor yn parhau i osod esiampl genedlaethol drwy sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw a gweithredol o fewn ei strwythurau gweinyddol a’i wasanaethau cyhoeddus.

Dyma rhai o’r cyflawniadau yn ystod 2024-25:

  • Gwaith wedi ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o’r polisi iaith a’r safonau a’r hyfforddiant iaith sydd ar gael ymysg staff
  • Sesiynau gloywi iaith wedi eu cynnal, er enghraifft staff newydd sydd ddim wedi arfer gweithio trwy gyfrwng yr iaith / ddim wedi arfer ysgrifennu yn Gymraeg
  • Cynnig arweiniad ar gydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg ac adrodd ar brosiectau sydd yn cyfrannu at weithredu’r Strategaeth Iaith.

 Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae gan Gyngor Gwynedd hanes hir a balch o arwain mewn materion iaith a rwyf yn falch o’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud. 

“Mae’n dod a boddhad mawr o wybod bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n derbyn gwasanaeth gan Gyngor Gwynedd yn gallu bod yn hyderus o wybod y bydd yn derbyn gwasanaeth hwnnw drwy’r Gymraeg.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg:

“Rwy’n hynod falch bod gan drigolion Gwynedd gyfle i ddefnyddio’u Cymraeg ar draws pob gwasanaeth mae’r Cyngor yn darparu. Mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i ni amlygu’r gwaith da sy’n cael ei gyflawni gan staff ar draws holl adrannau’r Cyngor, a dwi’n edrych ymlaen at weld blwyddyn arall o weithredu, a sicrhau bod hybu’r Gymraeg yn rhan allweddol o holl waith y Cyngor.”