Cyngor Gwynedd yn lansio gwasanaeth cefnogi Addysg newydd

Dyddiad: 02/07/2025

Mae gwasanaeth newydd fydd yn cyfrannu tuag at gynnal a gwellau safonau addysg i ddisgyblion ysgolion Gwynedd wedi ei lansio.

Mae tîm o swyddogion wedi eu penodi i’r Gwasanaeth Cefnogaeth Ysgolion Gwynedd, fydd yn rhannu eu hamser o fewn ysgolion y sir yn gweithio’n uniongyrchol gyda penaethiaid ac athrawon ar draws y sectorau uwchradd, cynradd ac addysg arbennig.

Blaenoriaethau’r gwasanaeth newydd fydd:

  • Cefnogi a gwella  safonau dysgu – cefnogaeth uniongyrchol i staff dysgu er mwyn sicrhau safonau gorau posib mewn dysgu llythrennedd, rhifedd a digidol.
  • Gwella ysgolion – hwyluso a grymuso cydweithio rhwng ysgolion er mwyn codi safonau a sicrhau yr addysgo orau i blant a phobl ifanc Gwynedd.
  • Arweinyddiaeth – datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn ysgolion y sir.
  • Llywodraethiant – Cefnogaeth i sicrhau fod ysgolion yn cael ei rhedeg yn effeithiol ac effeithlon.

 

Mae’r gwasanaeth newydd yn camu i’r bwlch wedi i GwE (Consortiwm Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion Gogledd Cymru) ddirwyn i ben ddiwedd mis Mai 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae hon yn bennod newydd gyffroes ym maes Addysg yng Ngwynedd a rydym yn ddiolchgar am fewnbwn a barn athrawon a phenaethiaid wrth sefydlu’r gwasanaeth.

“Rydan ni’n hynod falch o ysgolion y sir a’r gwaith mae’r holl staff dysgu yn ei wneud gyda’n pobl ifanc. Ein gweithlu yw ein ased bwysicaf ac mae cyfrifoldeb arnom i fod yn eu cefnogi a dwi’n hyderus bydd sefydlu’r gwasanaeth hwn o gymorth yn hyn o beth.

“Ein bwriad ydi rhoi cefnogaeth i ysgolion ac i rymuso athrawon. Rhan fawr o waith y gwasanaeth newydd fydd i feithrin gwell cyswllt rhwng ysgolion fel bod penaethiaid yn gallu cefnogi ei gilydd a’r athrawon yn gallu cydweithio i rannu ymarfer da, arbenigedd a syniadau newydd.”

Rheolwr y Gwasanaeth Cefnogaeth Ysgolion newydd yw Alison Halliday, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad fel athrawes a phennaeth ysgolion cynradd.

Dywedodd Alison Halliday: “Rydan ni’n dîm profiadol o gyn-athrawon a chyn-benaethiaid  a rydw i’n edrych ymlaen i weld y gwasanaeth newydd yn gwreiddio ac yn aeddfedu yng Ngwynedd.

“Drwy sefydlu’r gwasanaeth newydd yma, gall yr Adran Addysg i gael mwy o gyswllt uniongyrchol gyda pob ysgol yn y sir a sicrhau fod pawb yn cael yr un gefnogaeth. Addysg plant Gwynedd sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd a rydym am wneud yn siŵr nad os dim un disgybl yn cael eu gadael ar ôl.

“Llwyddiant i mi fyddai cyrraedd pwynt lle nad oes angen y gwasanaeth mwyach gan fod staff dysgu ar draws y sir yn gallu cefnogi ei gilydd.”