Cymunedau llechi Gwynedd yn uno mewn Gŵyl Bêl droed arbennig

Dyddiad: 09/07/2025

Roedd caeau chwarae ‘Y Gloddfa Glai’, Talysarn yn llawn bwrlwm yn ddiweddar wrth i dorf o blant o rai ardaloedd chwarelyddol Gwynedd ddod ynghyd mewn gŵyl bêl droed arbennig.

Roedd yr ŵyl wedi ei threfnu gan brosiect LleCHI LleNI Cyngor Gwynedd, i ddathlu agoriad swyddogol caeau pêl droed Clwb Pêl Droed Talysarn Celts ar ei newydd wedd, â’r cysylltiad hanesyddol rhwng chwarelwyr y dyffrynnoedd llechi a’r gêm bêl-droed.

Gwelwyd deuddeg ysgol gynradd yn cymryd rhan, gyda chynrychiolaeth o flynyddoedd 5 a 6 yn chwarae mewn twrnament 5 bob ochr.  Yn ogystal â’r gemau, roedd pob ysgol wedi paratoi gwybodaeth am ffigwr dylanwadol lleol gyda chysylltiad â’r diwydiant llechi, gyda’r cyfraniadau’n cael eu harddangos yn adeilad y clwb.

Rhoddwyd hefyd gyfle i’r plant fod yn sylwebu o dan arweiniad yr hanesydd a sylwebydd pêl-droed Meilyr Emrys a oedd yn rhedeg gweithdai gyda’r plant yn ystod y dydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r ŵyl pêl droed wedi rhoi cyfle i blant ifanc o’r cymunedau chwarelyddol sy’n rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ddod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn un lle i gael hwyl ac i ddathlu eu hanes mewn ffordd unigryw iawn.

“Roedd yn wych cael bod yn rhan o’r diwrnod ac yn gweld pawb yn mwynhau’r pêl droed, y straeon a’r cyfle i fod yn sylwebu. Un o uchafbwyntiau’r pnawn oedd ymweliad  Rhian Wilkinson, Rheolwr Tîm pêl droed Merched Cymru a ddaeth heibio yn dilyn ei chyhoeddiad o’r garfan bêl droed Merched Cymru ar ben Yr Wyddfa yn gynharach yn y dydd.”

Meddai’r Cynghorydd Peter Thomas, Aelod Lleol Llanllyfni:

“Dyma bennod newydd i’r clwb, ac adnodd gwerthfawr i’r ardal. Roedd yn beth da gallu nodi’r berthynas hanesyddol rhwng chwarelwyr a phêl droed fel rhan o’r dathliadau, yn enwedig gan gofio bu i’r clwb gwreiddiol gael ei sefydlu yn 1922 gan berchennog chwarel Dorothea.

“Mae’r dynodiad UNESCO wedi bod yn sbardun i adfywio economaidd a chymdeithasol yn ein cymunedau, ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc gael hwyl, ond hefyd i ddeall a perchnogi eu hanes.”

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng prosiect LleCHI LleNI (cefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol), Clwb Pêl droed Talysarn Celts a Chymdeithas Bêl droed Cymru. 

Ychwanegodd Alun Fôn Williams, Cadeirydd Clwb Pêl droed Talysarn Celts:

“Mae gweld y buddsoddiad a’r agoriad swyddogol yma yn benllanw saith mlynedd o waith caled gan wirfoddolwyr y clwb, mewn cydweithrediad gyda Cymdeithas Pêl droed Cymru, Cymru Football Foundation a Chyngor Gwynedd. Yma nawr mae dau gau pêl droed ac adeilad newydd sy’n fuddsoddiad i’w fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r clwb wedi derbyn nawdd ariannol Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd ar gyfer gwelliannau i’r cae ac adeilad y clwb.