Trefniadau cludiant cyhoeddus Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Dyddiad: 14/07/2023

Mae  trefniadau ar gyfer cludiant cyhoeddus ychwanegol ar gyfer rheini fydd yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym mis Awst wedi eu cyhoeddi, yn dilyn cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, trefnwyr yr Eisteddfod a’r gymuned leol.

Mae’r Cyngor yn atgoffa pawb fydd yn mynd i fwynhau eu hunain ar y Maes, Maes B a gweithgareddau ymylol – yn enwedig yr hwyl gyda’r nos – i drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus gymaint a sy’n bosib, er mwyn lleihau tagfeydd yn yr ardal ac er budd ein amgylchedd.

Bws – Yn ogystal â’r gwasanaeth arferol (Bws Rhif 8 Pwllheli-Nefyn-Tudweiliog) bydd bysus gwennol ychwanegol yn rhedeg rhwng Pwllheli-Boduan-Nefyn (bws 8E) a rhwng Edern-Morfa Nefyn-Nefyn (bws 8N) diolch i gydweithrediad â busnesau lleol yn ardaloedd Pwllheli a Nefyn. Bydd y bysus yn rhedeg yn rheolaidd trwy’r dydd, mae’r amserlenni llawn ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws

Bydd y bws arferol a’r bws gwennol yn cychwyn ac yn darfod o arosafnnau bws arferol, gellir dod o hyd i rhain ar wefan TravelineCymru: www.cymraeg.traveline.cymru/chwiliwr-arosfannau-bysiau/  Mae modd dal cysylltiadau bws i drefi eraill yng Ngwynedd a thu hwnt o Bwllheli, ac mae’r orsaf drenau gerllaw.

Bws hwyr – Bydd pedwar gwasanaeth bws ychwanegol un-ffordd yn gadael Maes yr Eisteddfod am 11pm i fynd i Nefyn (cost £4), Porthmadog (ar hyd yr A497, cost £5)  Caernarfon (ar hyd yr A499, cost £5), Aberdaron (8pm ac 11pm).

Bydd y bysiau hyn yn stopio mewn llochesi bws swyddogol y Cyngor yn unig ar hyd y ffordd. Rhaid archebu a thalu am eich lle erbyn 12pm (ganol dydd) ar y diwrnod cyn teithio, a hynny drwy wefan yr Eisteddfod. www.eisteddfod.cymru/cyrraedd-y-maes. Bydd y drefn archebu yn weithredol yn fuan iawn.   

Trên – Mae modd defnyddio’r gwasanaethau bws i gysylltu efo Rheilffordd y Cambrian (Gorsaf Pwllheli) neu Rheilffordd Arfordir y Gogledd (Gorsaf Bangor). Gellir cynllunio eich taith ar wefan Traveline Cymru: www.cymraeg.traveline.cymru/

Tacsi – Bydd safle tacsi pwrpasol wrth mynedfa’r Eisteddfod lle gall Eisteddfodwyr ddal tacsi (cerbyd hacni) gartref neu i’w llety. Dim ond cwmnïau tacsi sydd wedi cofrestru gyda threfnwyr yr Eisteddfod o flaen llaw fydd â hawl i fod ar y safle.

Man gollwng / pigo fyny – Bydd man pwrpasol ar gyfer rheini sy’n cael eu gollwng / pigo fyny gan dacsi sydd wedi ei drefnu o flaen llaw (tacsi hurio preifat) neu drwy drefniant gyda aelod o’r teulu neu ffrind. Bydd arwyddion clir i gyfeirio gyrwyr o’r ffordd fawr. Mae’r Cyngor yn galw ar fodurwyr i beidio gollwng na chodi pobl oddi ar y ffordd fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Amgylchedd: “Mae cymaint o edrych ymlaen at yr Eisteddfod a’r holl hwyl fydd gan yr ŵyl i’w gynnig. Ynghanol y miri, y peth pwysicaf oll ydi fod pawb yn cyrraedd adref yn saff ar y diwedd.

“Dwi’n erfyn ar bobl i wneud eu trefniadau o flaen llaw, yn enwedig os ydych yn bwriadu mwynhau’r cyngherddau, gigs a sioeau eraill fin nos. Mae llawer o opsiynau ar gael, gyda bysiau ychwanegol a mannau pwrpasol ar gyfer rheini sy’n cael pas adref.

“Rydw i’n ddiolchgar dros ben i fusnesau lleol sydd wedi ein cefnogi i fedru darparu’r bysys ychwanegol.”