Cyngor Gwynedd yn gweithio i ddod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau

Dyddiad: 14/07/2023
NIA JEFFREYS

Y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd.

Mae gwaith paratoi wedi dechrau yn Storiel, Bangor wedi cadarnhad y bydd yn un o’r lleoliadau yn y rhwydwaith o orielau gwasgaredig fydd yn ffurfio Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Bwriad cynllun Llywodraeth Cymru ydi sicrhau mwy o fynediad i’r casgliad cenedlaethol a dod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau.

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r newyddion hyn, a’r ffaith bydd dau o’r safleoedd o fewn y sir, sef Storiel ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Mae Storiel – sef amgueddfa sirol, oriel gelf, gofod cymunedol a chreadigol – wedi ei leoli yng nghalon dinas Bangor a caiff ei reoli gan Gyngor Gwynedd gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor. Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, yn ganolfan gelfyddydau gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a gweithgareddau.

Mae Swyddogion o Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd yn cydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd ac mae gwaith yn mynd rhagddo i asesu adeilad a gofodau arddangos Storiel. Maent yn pwyso a mesur yr angen am unrhyw fuddsoddiad er mwyn symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses a chychwyn rhaglennu benthyciadau.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: “Mae cael ein dewis i fod yn rhan o rwydwaith Oriel Gelf Gyhoeddus yn anrhydedd a rydw i’n ymfalchïo’n fawr yn y gwaith a’r ymdrech sydd wedi ei wneud i gyrraedd y garreg filltir bwysig yma. 

“Mae celf yn fodd o brofi amrediad o ddiwylliannau, safbwyntiau hanesyddol a chredoau felly rydw i’n croesawu’n fawr y bydd gan bobl o bob oed a chefndir yma yng Ngwynedd well mynediad at gelfyddyd fodern o safon rhyngwladol ar garreg eu drws. Bydd cael y ddau safle yma o fewn y sir yn ysbrydoli ein pobl ifanc ac yn ehangu eu gorwelion fel gallent weld pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y byd celf.

“Fel Cyngor, rydym yn gweithio’n galed i adeiladu ar enw da’r sir fel lle sy’n hyrwyddo cyfleoedd drwy’r celfyddydau. Er enghraifft, bu’r celf cyhoeddus ‘het bwced’ a leolwyd gan Gymdeithas Bel-Droed Cymru yng Nghaernarfon ac yna ym Mangor dros gyfnod Cwpan y Byd 2022 yn hynod boblogaidd ac yn fodd i ddenu nifer o ymwelwyr i’r ardal. Rydym hefyd yn edrych ymlaen i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro, fydd yn rhoi pob math o gyfleoedd celfyddydol ac yn ysbrydoli pobl leol am flynyddoedd i ddod.

“Yn ogystal â’r manteision i drigolion a chymunedau lleol, mae adeiladu ar ein atyniadau celfyddydol fel hyn yn hwb sylweddol i economi ymweld Gwynedd a gyda’r potensial i ychwanegu at brofiad ymwelwyr i’r ardal. Bydd datblygiadau o’r math yma yn denu buddsoddiad pellach ac yn ddod a budd i fusnesau a chyflenwyr lleol dros amser. 

“Fel Cyngor, rydym yn edrych ymlaen i weithio efo’n partneriaid ar bob math o brosiectau celfyddydol ym mhob rhan o’r sir.”

 

Nodiadau

Mae mwy o wybodaeth am yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, sef un o brif ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru, ar wefan y Llywodraeth: Cymunedau lleol am gael gwell cyfleoedd i fwynhau casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes Cymru | LLYW.CYMRU