Casgliad unigryw o glipiau fideo i'w gweld yn Llyfrgelloedd Gwynedd

Dyddiad: 03/07/2023
Mae archif digidol o glipiau fideo gan BFI (British Film Institute) Replay  nawr ar gael yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol

Cyfrifiaduron mewn llyfrgell gyhoeddus yw’r unig le mae modd gwylio’r clipiau hyn ac mae Llyfrgelloedd Gwynedd yn falch o fod yn rhan o’r cynllun arloesol.

Mae’r archif yn cynnwys  hen fideos wedi eu digideiddio o gasgliadau nifer o bartneriaid, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn wedi sicrhau bydd y casgliad eang ar gael i ddefnyddwyr am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r adnodd unigryw hwn yn rhoi mynediad i’r cyhoedd i archif y genedl drwy ddelweddau symudol. Mae’n archif ddigidol fyw fydd yn tyfu ac yn esblygu fel bydd clipiau newydd yn parhau i gael eu hychwanegu.

Bydd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr wneud gwaith ymchwil a mwynhau casgliad o filoedd o fideos yn deillio o’r 1960au hyd y 2010au. Gallwch wylio cynnwys sy’n berthnasol i Wynedd megis animeiddiad ‘Lwmp o Jaman’ gan ddisgyblion Ysgol Maesincla, Caernarfon neu wylio taith y drên stêm olaf o’r Bala i Flaenau Ffestiniog – mae rhywbeth i bawb!

Dywedodd Y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Llyfrgelloedd: “Mae’n wych gweld fod Llyfrgelloedd Gwynedd ar y blaen yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, a dwi’n siŵr y bydd defnyddwyr Llyfrgelloedd Gwynedd yn elwa’n fawr ohono.

“Bydd yn gyfle gwych i drigolion i ail-fyw digwyddiadau gan bontio’r cenedlaethau. Bydd hefyd yn galluogi pobl i gwneud gwaith ymchwil ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn eu harchifau lleol a darganfod sut mae gwleidyddiaeth, ideoleg a theledu wedi siapio ein bywydau."

Am fwy o wybodaeth am BFI Replay, ewch i www.bfi.org.uk/bfi-replay