Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn helpu miloedd i gael mynediad at gartrefi fforddiadwy
Dyddiad: 30/04/2025
Mae Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn ennill momentwm, gyda miloedd o bobl eisoes yn elwa o gartrefi newydd, cefnogaeth ymarferol a chymorth ariannol i'w helpu i fyw’n lleol.
Pwrpas y Cynllun yw darparu cartrefi fforddiadwy, o safon i bobl Gwynedd i fynd i'r afael â’r prinder tai yn y sir. Ers ei lansio yn 2021, mae bron i 9000 o bobl wedi gweld effaith bositif y Cynllun ar eu sefyllfa dai, drwy denantiaethau, benthyciadau, grantiau a chyngor, gyda’r ffigwr yn cynyddu bob dydd. Hyd yn hyn, mae 800 o unedau wedi'u hadeiladu, eu datblygu neu wedi dod yn ôl i ddefnydd gyda bron i £70 miliwn wedi'i fuddsoddi – gan gynnwys £10.5 miliwn o'r Premiwm Treth Cyngor.
Ymhlith y 33 prosiect sydd wedi'u cynnwys yw rhaglen datblygu tai Tŷ Gwynedd, sydd am ddarparu 90 o gartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithiol ledled y sir, gyda gwaith wedi dechrau ar safle yn Llanberis a Bangor, caniatâd cynllunio wedi cael ei dderbyn ym Morfa Nefyn a gwaith ar y gweill ym Mynytho a Llanystumdwy.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu llety â chefnogaeth i bobl sy'n profi digartrefedd, gyda sawl datblygiad wedi cwblhau erbyn hyn. Mae digartrefedd yn parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol i lawer iawn o bobl yng Ngwynedd, ac mae'r prosiect hwn yn anelu at ddatblygu dros 83 o unedau pwrpasol i gefnogi'r rhai mewn angen.
Rhan arall allweddol o’r Cynllun Gweithredu Tai yw’r cynlluniau i ddod a thai gwag yn ôl i ddefnydd. Mae 259 o dai gwag bellach yn gartrefi i bobl leol o ganlyniad i gymorth grantiau a chefnogaeth y tîm tai gwag, gan gynnwys 97 o dai ymhle mae eu perchnogion wedi derbyn grantiau i adnewyddu’r tŷ i safon byw derbyniol.
Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi cymdeithasau tai i adeiladu tai cymdeithasol drwy ddefnydd Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae dros 350 o gartrefi cymdeithasol wedi'u codi, gyda 361 arall ar y gweill. Gyda dros 4300 o bobl dal ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol yng Ngwynedd, bydd y tai newydd hyn yn sicrhau y gall mwy o bobl gael mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae'r hawl i gartref yn hawl gwbl sylfaenol, ond rydym yn parhau i wynebu argyfwng tai difrifol yma yng Ngwynedd, fel mewn siroedd eraill. Wrth i ni edrych ymlaen at flynyddoedd nesaf y Cynllun Gweithredu Tai, mae ein nod yn aros yn glir – sicrhau bod pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas, fforddiadwy ac o safon yn eu cymuned.
Mae’r cynllun ar waith ers 4 mlynedd bellach, ac rydym wedi cyrraedd cerrig milltir arwyddocaol. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos gyda’n partneriaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r cymdeithasau tai. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth ar hyd y daith, ac i bawb sy’n gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant y prosiectau.”
Nodiadau:
Cafodd Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020, ac mae’n weithredol ers Ebrill 2021. Mae’n cynnwys 33 o brosiectau i greu bron i 1.500 uned er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd gartref addas, fforddiadwy ac o safon.
Er mwyn cyflawni’r nod hyn, mae yna 5 amcan wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun, sef:
- Sicrhau fod neb yn ddigartref yng Ngwynedd
- Cynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd gael tenantiaeth mewn tŷ cymdeithasol
- Helpu trigolion Gwynedd i fod yn berchen ar gartref yn eu cymuned
- Tai Gwynedd yn amgylcheddol gyfeillgar
- Tai Gwynedd yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a llesiant trigolion y sir
Mwy o wybodaeth am Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd: Microsoft Word - Atodiad CGT 26.11.20.docx