Cyflwyniadau  BEM yng Nghastell Caernarfon
			Dyddiad:  23/04/2024
		
Cyflwynwyd y BEM i  bump o drigolion Sir Gadwedig  Gwynedd, gan yr Arglwydd Raglaw Edmund S Bailey, mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon yn ddiweddar.
 
Yn y llun o’r chwith i’r dde:
Mr Sean Adcock, Penisarwaun-  Am wasanaeth i adeiladau waliau cerrig sych
Mr Alexis Page, Porthaethwy – Am wasanaeth i ddiogelwch Treftadaeth yn ystod Cofid 19
Mr Edmund S Bailey – Arglwydd Raglaw Gwynedd
Mrs Llinos Edwards, Caergybi - Am wasanaeth i blant bregus yng Ngogledd Cymru
Dr Robert Havard Davies, Tregarth – Am Wasanaeth i’r Gwasanaeth Iechyd
Mr Kenneth Fitzpatrick, Nefyn – Am wasanaeth i ddiogelwch morwrol
Nodiadau: 
Lluniau unigol ar gael ar gais – cysylltwch â Gwasanaeth Cyfathrebu Cyngor Gwynedd ar cyfathrebu@gwynedd.llyw.cymru