Newyddion da i Neuadd Dwyfor wedi gwaith cynnal a chadw

Dyddiad: 17/04/2023
Mae Neuadd Dwyfor, Pwllheli wedi bod yn llwyddiannus mewn cais am fuddsoddiad o £36,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous.

Daw y newyddion gwych hyn ddyddiau yn unig cyn bydd y theatr a’r sinema yn Neuadd Dwyfor yn ail agor ei ddrysau ar ôl cyfnod o waith cynnal a chadw hanfodol i ddiogelu’r adeiladi’r dyfodol.

Bydd Neuadd Dwyfor, sy’n ganolbwynt diwylliannol i ardal Llŷn ac Eifionydd, yn agor ar ei newydd wedd nos Iau, 20 Ebrill  gyda darllediad o sioe National Theatre Live: The Cruicible.

Bydd y  grant yn caniatáu i Neuadd Dwyfor arbrofi gyda chreu rhaglen o ddigwyddiadau gan ehangu’r cynnig o ddigwyddiadau byw megis cerddoriaeth byw, cabaret, comedi, dawns a sioeau theatr. Mae’r gwaith cynnal a chadw diweddar wedi  diogelu’r adeilad hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i droad y ganrif ddiwethaf, rhag effeithiau’r tywydd ac wedi sicrhau cartref addas ar gyfer yr arlwy o adloniant cyfoes a difyr sydd i ddod.

Cwblhawyd gwaith i ddiogelu’r brics coch allanol i arbed yr adeilad rhag tamprwydd a thynnwyd y sgaffald ar flaen yr adeilad ddechrau mis Ebrill. Yn ogystal â hyn mae’r gwaith allanol yn cynnwys ail rendro, adnewyddu’r gwaith plwm a gosod ffenestri newydd hefyd wedi ei gwblhau.

Tu mewn i’r adeilad mae gwaith wedi ei gwblhau ar y waliau i drin tamprwydd gan gynnwys ail blastro a pheintio. Gosodwyd carpedi newydd yn y mannau cyhoeddus. Mae gwaith trawsnewid wedi bod yn nhoiledau’r merched, dynion a’r toiled hygyrch ar y llawr cyntaf hefyd gan gynnwys gosod tapiau awtomatig.

Yng nghefn y llwyfan, mae swyddfeydd newydd wedi cael eu creu ar gyfer staff. Maes o law bydd drysau newydd yn cael eu gosod ar flaen yr adeilad gan gynnwys prif fynedfa awtomatig er mwyn gwella insiwleiddied y cyntedd.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros adran Economi a Chymuned  Cyngor Gwynedd: “Dyma bennod newydd a chyffroes yn hanes hir Neuadd Dwyfor yn dilyn buddsoddiad sylweddol i ddiogelu’r adnodd bwysig hon gan Gyngor Gwynedd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydw i’n ddiolchgar hefyd i’r Cyngor Celfyddydau am eu cefnogaeth i ddatblygu rhaglen gelfyddydol gyfoes fydd yn denu cynulleidfaoedd ar gyfer y bennod newydd yma.

“Byddwn yn falch iawn o groesawu cynulleidfaoedd hen a newydd yn ôl i Neuadd Dwyfor yn fuan, gan edrych ymlaen at fwynhau digwyddiadau celfyddydol gwych yn y flwyddyn y byddwn yn croesawu’r Eisteddfod i Lŷn ac Eifionydd.”


Mae nifer o sioeau cyffrous ar werth drwy’r swyddfa docynnau a’r gwefan gan cynnwys Pedair + Lleucu Gwawr; Noson Yng Nghwmni Shane Williams; Gimme Gimme: Teyrnged i Abba; Opera Cymru: Cosi Fan Tutte; a Golygfeydd o’r Pla Du gan Theatrau Sir Gâr.

 

Mae’r holl wybodaeth am ddigwyddiadau yn Neuadd Dwyfor ar gael ar y wefan www.NeuaddDwyfor.cymru, neu drwy ddilyn ar Facebook, Instagram a Trydar.