Gwynedd yn cymryd y camau cyntaf i ddod yn sir Oed Gyfeillgar

Dyddiad: 21/04/2023
Bydd Cyngor Gwynedd yn cymryd y camau cyntaf ar y daith i sicrhau fod cymunedau’r sir yn llefydd dymunol, diogel a hygyrch i bobl wrth iddynt heneiddio, os bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn argymhelliad ymrwymo i’r ymdrech o greu Gwynedd Oed Gyfeillgar.

 

Bwriad Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw gweld pob sir yn y wlad yn Oed Gyfeillgar erbyn 2026,  a bydd Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gael yr achrediad o fewn y flwyddyn nesaf, os bydd Cabinet y Cyngor yn cefnogi’r argymhelliad yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill.

 

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau i sicrhau fod holl wasanaethau ar draws y Cyngor yn adnabod beth sydd yn oed gyfeillgar, yn dathlu llwyddiannau yn y maes a chyn bwysiced yn adnabod beth sydd angen ei ddatblygu o fewn y maes.

 

Nid mater i’r awdurdod lleol yn unig yw gweithio tuag at greu Gwynedd Oed Gyfeillgar. Os bydd Cabinet y Cyngor yn cytuno a’r argymhelliad, bydd swyddogion ac aelodau yn cydweithio’n agos â phartneriaid o awdurdodau a sefydliadau eraill a’r gymuned er mwyn sicrhau fod y sir yn le braf i bawb, waeth beth yw eu hoedran.

 

Dechreuwyd y syniad o gymunedau a dinasoedd ‘oed gyfeillgar’ gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gyda’r bwriad o adnabod a thaclo’r rhwystrau sy’n effeithio llesiant pobl hŷn ac yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas. Yn ôl y sefydliad, mae ffactorau sy’n gwneud bywyd yn heriol bobl hŷn, ac yn arwain at unigrwydd, yn aml yn gorgyffwrdd. Drwy sicrhau cymunedau oed gyfeillgar gellir helpu pobl i gadw’n annibynnol pharhau i deimlo’n rhan o gymdeithas. 

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi dechrau mapio allan y trywydd tuag at ennill achrediad Cymunedau Oed Gyfeillgar gan Lywodraeth Cymru gyda’r strategaeth Cymdeithas Sy’n Heneiddio (2021) yn sail i'r gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd: “Mae pobl hŷn yn drigolion gwerthfawr o’r sir gyda 30% o boblogaeth Gwynedd yn 60 oed neu’n hŷn, neu 35,300 allan o 117,400 o bobl.

“Maen nhw wedi gweithio a chyfrannu mewn cymaint o ffyrdd i adeiladu’r cymunedau rydan ni’n falch ohonynt heddiw. Mae’n bwysig cofio cymaint maen nhw’n parhau i gyfrannu hyd yn oed ar ôl oed ymddeol, er enghraifft drwy helpu eu teuluoedd, drwy waith cyflogedig neu wirfoddol, a chynnal gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol.

 

“Dyna pam rydym fel Cyngor yn angerddol dros ddatblygu’r meddylfryd oed gyfeillgar ar draws y Cyngor a gyda’n partneriaid, drwy roi materion oed gyfeillgar yn rhan annatod o bob datblygiad a gwasanaeth. Dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet ac yn mawr obeithio am gefnogaeth fy nghyd aelodau er mwyn bwrw mlaen efo’r gwaith.”

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi  yn y prosiect drwy glustnodi amser un swyddog llawn amser, drwy gyllideb flynyddol  Llywodraeth Cymru. Mae dyletswyddau’r swyddog yma yn cynnwys cyd-gordio’r ymdrech ar draws holl adrannau’r Cyngor a sicrhau fod anghenion pobl hŷn yn cael ystyriaeth wrth ddatblygu gwasanaethau a buddsoddi mewn adnoddau, gan nad mater i wasanaethau cymdeithasol yn unig yw hyn.

 

Er enghraifft, bydd modd sicrhau fod adnoddau yn hygyrch; fod adnoddau fel meinciau a thoiledau ar gael mewn mannau cyhoeddus; bod gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio geirfa addas wrth drafod anghenion pobl hŷn; bod urddas a pharch yn ganolog i wasanaethau; a llawer mwy.

 

Mae’r Cyngor eisoes wedi trafod y mater gyda fforymau pobl hŷn y sir er mwyn clywed lleisiau pobl leol ac yn gofyn i bobl gysylltu os am godi pryder neu drafod y maes. Mae bwriad gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod y gymuned gyfan yn Oed Gyfeillgar, nid yn unig y  gwasanaethau mae Cyngor Gwynedd ei hyn yn ddarparu.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Gwaetha’r modd, mae llawer o bobl wedi colli eu hyder yn dilyn y pandemig. Rydw i’n clywed am bobl hŷn yn arbennig yn nerfus o fynd allan i gymdeithasu, i wirfoddoli ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel y byddant.

 

“Drwy edrych ar yr amgylchedd a’n cymunedau, rydw i’n mawr hyderu gallwn fel Cyngor a’n partneriaid wneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i godi allan unwaith eto. Mae’n bwysig cofio fod Oed Gyfeillgar hefyd yn golygu addas a hygyrch i bawb arall hefyd, er enghraifft pobl iau sydd ag anableddau neu gyflwr meddygol tymor hir, rhai sy’n feichiog neu rieni plant bychan.

 

“Mae cyfraniad pobl hŷn i gymdeithas yn werth chweil ac mae angen inni ddangos ein gwerthfawrogiad drwy wneud y gymuned yn groesawgar i’w anghenion.”

 

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed gan bobl y sir am syniadau da ac am ddiffygion sy’n effeithio pobl hŷn yn anghyfartal. Os oes gennych bryder neu sylw, cysylltwch â MirainLlwydRoberts@gwynedd.llyw.cymru neu trwy ffonio 01286 682818.