Gŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn Grymuso Pobl Ifanc i Flaenoriaethu Iechyd Meddwl a Lles

Dyddiad: 21/04/2023
IeuenctidGwynedd

Fe ddaru gannoedd o bobl ifanc Gwynedd cymryd rhan yng Ngŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd eleni. Nod yr ŵyl, a gynhaliwyd yn ddiweddar ar draws y sir dros gyfnod o bum niwrnod, yw hybu iechyd meddwl a lles da ymhlith pobl ifanc.

Roedd yr Ŵyl Llesiant blwyddyn ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol a gafodd effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc y sir. Yn wir, cafodd hyn ei gydnabod yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 gyda'r Ŵyl yn ennill y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’

Roedd yr ŵyl eleni'r un mor llwyddiannus, gyda dros gant o sesiynau’n cael eu cynnal ledled y sir. Roedd yr ŵyl yn gynhwysol, yn hwyl, ac yn addysgiadol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc, gan gynnwys taith i Alton Towers, taith bowlio, taith sglefrio iâ a golchi ceir ym Mhorthmadog at achos da. Cynhaliwyd llawer o sesiynau llesiant hefyd mewn ysgolion, a oedd yn cynnwys gwnïo, Lego, delio gyda straen a llawer mwy.

Yn ogystal, cynhaliwyd cystadleuaeth ar draws Gwynedd, gyda gwobrau’n cynnwys aelodaeth deuluol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am flwyddyn, aelodaeth Byw’n Iach am flwyddyn a thalebau siopa.

Roedd y tasgau ar gyfer y gystadleuaeth yn cynnwys dylunio masgot ar gyfer yr ŵyl, creu poster positifrwydd, creu fideo byr am fwyta’n iach, creu barddoniaeth am gadw’n iach a thynnu llun a oedd yn dangos y pum ffordd at les.

Dyma beth oedd gan bobl ifanc sydd wedi bod ynghlwm gyda’r paratoadau i ddweud am eu profiad: “Profiad gwerth chweil gyda llawer o gyfleon.”; “Dwi wedi dysgu am fy hawliau fel person ifanc.” ; “Nifer o brofiadau gwahanol a llawer o hwyl.”; “Wedi bod yn grêt, anturus, creadigol a llawer o Hwyl!”

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros Blant a Phobl Ifanc:

“Rwyf wrth fy modd i weld pa mor llwyddiannus y mae Gŵyl Llesiant Ieuenctid Gwynedd wedi bod yn hybu iechyd meddwl da a lles ymhlith pobl ifanc ein sir. Mae natur gynhwysol a hwyliog yr ŵyl wedi caniatáu amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau, a chymeradwyaf Ieuenctid Gwynedd, ein partneriaid ac wrth gwrs pobl ifanc y sir am eu gwaith caled a’u hymroddiad i wneud y digwyddiad hwn yn bosib.

“Rydym yn falch o gefnogi mentrau fel hyn sy’n rhoi blaenoriaeth i les ieuenctid ein cymuned ac yn edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae Ieuenctid Gwynedd yn awyddus i glywed eich syniadau ar gyfer yr ŵyl blwyddyn nesaf drwy e-bostio llais@ieuenctid.llyw.gwynedd