Gwasanaeth Derwen yn darparu gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc yng Ngwynedd

Dyddiad: 13/04/2023
Mae rhieni a gofalwyr plant sydd ag anableddau wedi cael cyfle i ddod at ei gilydd i glywed am y gwasanaethau arbenigol sydd ar gael iddynt.

Mae Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd ac yn gweithio gyda plant a phobl ifanc i ddarparu cefnogaeth arbenigol iddynt.

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn ddiweddar ym Mhlas Menai ger Caernarfon ac yn yng Nghanolfan Glan Wnion yn Nolgellau i rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am Derwen ac i glywed eu barn am y gwasanaethau mae’r plant yn eu derbyn.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd: “Mae Tîm Derwen yn darparu asesiad, ymyrraeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc gydag anghenion parhaus o ganlyniad i anableddau neu waeledd. Mae’r tîm yn anelu i gefnogi teuluoedd, gofalwyr a’r gymuned ehangach i hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd.

“Gall y gefnogaeth gynnwys cyngor, gwybodaeth neu adolygiad aml-asiantaethol o anghenion y plentyn. Cyn bwysiced i’r teulu hefyd, gall Derwen help gyda asesiad o anghenion y rhieni wrth gwblhau asesiad gofalwr efo nhw  a threfnu gwasanaeth cefnogol / egwyl fer fel sydd angen.

“Pwrpas y ddau ddigwyddiad oedd rhoi cyfle i rieni a gofalwyr ddod ynghyd i gyfarfod cynrychiolwyr o sefydliadau iechyd, cymdeithasol a gwirfoddol, fyddai’n gallu cynnig cefnogaeth i’r plant a’u teuluoedd.

“Roedd yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd ac i glywed am yr ystod o wasanaethau a chymorth sydd ar gael i helpu’r bobl ifanc fyw bywydau llawn a hapus. Byddwn yn erfyn ar unrhyw deulu arall allan yna sydd â phlentyn gydag anabledd neu amhariad arall i ddod i gyswllt â Derwen. Mae’r staff ymroddedig yno i helpu.”

Gall person ifanc, eu teulu neu berson proffesiynol arall gysylltu â Derwen drwy’r wefan Cyngor Gwynedd: Tîm Integredig Plant Anabl (llyw.cymru) neu drwy ffonio: 03000 840967 (Ardal Arfon), 01758 704425 (Ardal Dwyfor), 01341 424503 (Ardal Meirionnydd).