Gofalu am yr amgylchedd drwy brosiect Llyfrgelloedd Gwyrdd

Dyddiad: 24/04/2023
Fel rhan o brosiect Llyfrgelloedd Gwyrdd, cafodd defnyddwyr tair Llyfrgell yng Ngwynedd gyfle dros wyliau’r Pasg i ddysgu mwy am sut i ofalu am ein hamgylchedd. Cynhaliwyd Gweithdai Natur gan Elfennau Gwyllt a roddodd gyfle i blant a theuluoedd fynychu Gweithdy Nabod Natur ar gyfer plant iau, a chyfle i blant hŷn adeiladu tŷ gwenyn neu flwch adar yng ngweithgaredd Blwch Natur.

 

Fel rhan o weithgaredd Blwch Natur ,rhoddwyd cyfle i naturiaethwyr ifanc ddefnyddio dril pŵer a theclynnau (o dan oruchwyliaeth agos) i adeiladu eu tŷ gwenyn neu flwch adar eu hunain, y gallent fynd ag ef adref a'i osod yn eu gardd neu fan gwyrdd eu hunain.

 

Roedd gweithgareddau’r gwyliau’r Pasg yn rhan o’r prosiect Llyfrgelloedd Gwyrdd, sy’n rhedeg tan ddiwedd fis Mehefin. Nod Cronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru yw cefnogi rhaglenni ar raddfa fach, gweithgareddau a rhannu gwybodaeth o fewn llyfrgelloedd yng Nghymru i geisio gwella dealltwriaeth gyffredinol a chymryd camau i ddangos cyfrifoldeb amgylcheddol.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn £2,500 gan Gronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd CILIP Cymru Wales i ddarparu detholiad o lyfrau Cymraeg a Saesneg i Lyfrgelloedd Gwynedd, a gellir hefyd archebu’ rhain ar gais gan aelodau llyfrgelloedd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Llyfrgelloedd Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Dywedodd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae’r casgliadau llyfrau i oedolion a phlant yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael yn Llyfrgelloedd Bangor, Caernarfon, Porthmadog a Dolgellau i helpu addysgu pobl am natur, yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth ac i helpu i rymuso pobl i wneud newidiadau eu hunain yn eu bywydau.

 

"Am gyfnod cyfyngedig, a thra bydd stoc yn para, bydd pawb sy’n benthyca, neu’n gofyn am lyfr o gasgliad Y Llyfrgell Werdd yng Ngwynedd yn cael cynnig pecyn o hadau blodau gwyllt am ddim gyda’u llyfr. Mae'r prosiect yn rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin, ond y gobaith yw y gellir ymestyn y prosiect ac yn y dyfodol i greu partneriaethau gyda llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru”

 

Gellir gweld pa lyfrau sydd ar gael trwy glicio ar Y Llyfrgell Werdd yn www.gwynedd.llyw.cymru/catalogllyfrgell